Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:41, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn groesawu'r Aelod i'w swydd newydd yng nghabinet yr wrthblaid. Gwelsom lifogydd heb eu tebyg o’r blaen dros yr haf. Cawsom ein hatgoffa bod argyfwng hinsawdd yn dal i fodoli ochr yn ochr â phandemig COVID-19. Rwyf wedi sicrhau bod 100 y cant o gyllid atgyweirio ar gael i bob awdurdod lleol ar gyfer digwyddiadau llifogydd, felly efallai nad yw'r awdurdod lleol wedi gwneud cais amdano. Yn sicr, gyda Rhondda Cynon Taf—a gwn fod gennyf gwestiwn yn nes ymlaen ar RhCT yn benodol—gwnaethom ariannu 100 y cant o'r hyn y gwnaethant gais amdano. Rydym yn ariannu sawl cynllun lliniaru llifogydd yng ngogledd Cymru, ond ar gyfer y digwyddiadau llifogydd a welsom, fel y dywedaf, mae—. Nid oes angen pot arbennig o arian arnom; mae’r arian hwnnw ar gael i'r holl awdurdodau lleol ac awdurdodau rheoli perygl wneud cais amdano.