Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 16 Medi 2020.
Hoffwn ddarllen sylw a gefais ar fy nhudalen Facebook i'r Gweinidog, sy'n adlewyrchu llawer o sylwadau a gefais. Daw'r sylw hwn gan etholwr:
A all unrhyw un ateb y cwestiwn hwn i mi os gwelwch yn dda? Ddeng munud yn ôl, euthum i Morrisons yng Nghaerffili. Wrth siopa, gwelais bedwar o bobl nad oeddent yn gwisgo masgiau, heblaw o amgylch eu gyddfau. Tynnais sylw staff diogelwch y siop at hyn, a dywedodd wrthyf 'Nid oes gennym awdurdod i orfodi'r mater'. Nawr, rwy'n ddryslyd iawn, gan fod Llywodraeth Cymru a’r cyngor wedi dweud bod gwisgo masgiau mewn siopau yn orfodol.
Cefais safbwyntiau tebyg gan etholwyr yn sôn am sefyllfaoedd tebyg yn Tesco, Asda ac Aldi yn fy mewnflwch e-bost, ac mae hynny'n peri pryderon. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau â'r archfarchnadoedd mawr yn ystod y pandemig, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y prif archfarchnadoedd yn gorfodi mesurau diogelwch COVID fel y gall pobl sy'n cysylltu â mi deimlo'n ddiogel wrth siopa?