Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer adar ysglyfaethus, roeddwn yn drist iawn o glywed am farwolaeth yr unig eryr aur yng Nghymru yn ddiweddar. Bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer unrhyw gynigion i ailgyflwyno eryrod yng Nghymru. Byddai addasrwydd cynefinoedd a'r effeithiau ar fywyd gwyllt a defnydd tir presennol yn rhan o'r broses benderfynu.