Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 16 Medi 2020.
Wel, rwy'n gobeithio y bydd Janet Finch-Saunders yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi wynebu'r un pryderon yn union ag awdurdodau lleol, os nad rhai mwy sylweddol. Ond yn sicr, byddaf yn edrych ar y dyddiadau hynny, gan y credaf eich bod yn iawn—mae hynny'n ddefnyddiol, nid yn unig ar gyfer tryloywder, ond hefyd ar gyfer edrych ar ba gynlluniau lliniaru llifogydd y gallwn eu cyflwyno. Rwyf wedi darparu cryn dipyn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y cynlluniau lliniaru llifogydd hynny yn cael eu cyflwyno. Dywedodd awdurdodau lleol wrthyf mai cyllid oedd un o'r rhwystrau rhag cyflwyno’r cynlluniau, felly rwyf wedi cael gwared ar y rhwystr hwnnw drwy ddweud y byddwn yn ariannu 100 y cant o'r astudiaeth gychwynnol honno i weld a fyddai cynllun lliniaru llifogydd yn addas ar gyfer yr ardal benodol honno.