Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 16 Medi 2020.
Rwy'n sylweddoli y gall cynigion i ailgyflwyno rhai rhywogaethau fod yn ddadleuol; weithiau, caiff safbwyntiau gwahanol iawn eu mynegi. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod pob safbwynt yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses benderfynu. Dylai hynny gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus.