Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 16 Medi 2020.
Iawn. Wel, bydd angen pob math o gynlluniau wrth gefn arnom, wrth gwrs, ac mae pobl yn disgwyl i Lywodraeth Cymru arwain o'r tu blaen ar hynny, yn amlwg, a byddwn yn gobeithio eich bod yn teimlo bod gennych yr adnoddau, neu os nad ydych, yna bydd angen i bob un ohonom weithio i sicrhau eu bod yno. Mae rhywun yn meddwl yn benodol am yr angen i ymdrin â chig oen dros ben mewn senario heb gytundeb. Nid oes digon o le storio yn y DU i storio cig oen pe baem yn colli ein marchnad allforio. Felly, a allwch roi diweddariad, felly, ac egluro i ni ble yn union rydych arni o ran cynllunio wrth gefn ac a ydych yn hyderus y byddwch wedi paratoi ar gyfer pob sefyllfa? Oherwydd gallwch ddweud wrthym fod y gwaith yn dechrau eto neu ar fin ailgychwyn, ond mae pobl yn awyddus i wybod a ydych yn credu y bydd hyn yn gymaint o lanast ag y mae rhai pobl yn awgrymu y gallai fod, neu a ydych yn hyderus y bydd mesurau ar waith i liniaru'r gwaethaf o'r niwed.