Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae eich ymgynghoriad ar gynigion i barhau â chefnogaeth amaethyddol i ffermwyr mewn cyfnod pontio ôl-Brexit hyd at ba bryd bynnag y byddwn yn llwyddo i basio Bil amaethyddol Cymru newydd yn cynnig cau'r cynllun ffermwyr ifanc ar gyfer ceisiadau newydd o'r flwyddyn nesaf ymlaen. A allwch roi cadarnhad neu eglurder inni ynghylch y bwriad yn y tymor hwy o ran darparu rhyw fath o gefnogaeth bwrpasol i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant? Yn amlwg, mae'n achos pryder y gallem fod yn wynebu cyfnod o ddwy neu dair blynedd heb unrhyw gefnogaeth bwrpasol o'r math hwnnw. Pam y credwch y byddai'n dderbyniol inni beidio â chefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc yn y cyfnod interim? A pha fath o neges y credwch y gallai fod yn cael ei chyfleu i’r diwydiant os ydynt yn credu bod y Llywodraeth o’r farn fod cefnogaeth o'r math hwnnw yn rhywbeth y gellir ei hepgor, hyd yn oed os mai yn y tymor byr yn unig y bydd hynny?