Atal Llifogydd yng Ngorllewin Clwyd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:00, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r perygl llifogydd sy'n dal i fodoli yn ardal Towyn a Bae Cinmel, ardal sydd wedi dioddef effeithiau dinistriol llifogydd yn y gorffennol. Gwn fod yr awdurdod lleol yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â chynlluniau gwaith yn yr ardal benodol honno i atgyfnerthu ac adnewyddu amddiffynfeydd y traeth, yn enwedig o amgylch ardal Sandy Cove ac ar hyd Bae Cinmel. A gaf fi ofyn pa gynnydd sydd wedi bod o safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn, a phryd y bydd trigolion lleol yn gallu gweld gwaith adeiladu'n digwydd er mwyn buddsoddi yn yr amddiffynfeydd hynny a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon?