Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:47, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Y cynllun tymor hwy yw hwnnw; roeddwn yn gofyn i chi am drefniadau tymor byr, interim, oherwydd bydd cyfnod o ddwy i dair blynedd, felly, heb unrhyw fath o gefnogaeth bwrpasol i newydd-ddyfodiaid. Mae angen cefnogaeth yn awr yn enwedig gan fod arnom angen gwaed newydd, syniadau newydd a brwdfrydedd newydd yn barhaus. A chyda'r rhagolwg—y rhagolwg cynyddol, mewn gwirionedd—y cawn Brexit heb gytundeb, dyna'r math o bobl sydd eu hangen arnom, pobl sy’n barod i wynebu'r heriau newydd sydd o'n blaenau. A chyda'r tebygolrwydd cynyddol o Brexit heb gytundeb yn ein hwynebu, tybed a oes gan eich adran ddigon o adnoddau i fynd i'r afael â phandemig COVID ar y naill law a pharatoi'n ystyrlon ac yn briodol ar gyfer Brexit heb gytundeb ar y llaw arall. Efallai y gallech ddweud wrthym pa mor barod yw eich adran am Brexit heb gytundeb ac a ydych yn hyderus y bydd y sector hefyd yn barod ymhen 15 wythnos.