Atal Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 1:57, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Yn ddiweddar, ymwelais ag Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy gyda’r Aelod Seneddol lleol, David Davies, i weld drosof fy hun yr effeithiau dinistriol y mae llifogydd wedi’u cael ar eu pentref. Cafodd llifogydd y gaeaf diwethaf effaith ddinistriol ar gynifer o drigolion lleol, ac mae pryderon ynghylch hynny’n digwydd eto y gaeaf hwn yn peri nosweithiau di-gwsg i lawer o drigolion, yn amlwg, ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, o gofio ein bod bellach yn yr hydref, a wnewch chi annog CNC i gyflymu eu hadroddiad ar Ynysgynwraidd a chostau a manteision y cynlluniau yno, gan fod diogelwch, cartrefi a bywoliaeth pobl mewn perygl? Diolch.