Targedau Lleihau Allyriadau Carbon

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:20, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Iawn. Diolch yn fawr iawn. Felly, sut y mae'r rheoliadau cynllunio'n cyd-fynd â'r angen i addasu swyddfeydd a mannau siopa gwag at ddibenion gwahanol, creu llwybrau cerdded a beicio mwy pwrpasol, ac yn benodol, eich ymateb i'r hyn yr ymddengys eu bod yn fuddsoddiadau mewn llety pwrpasol i fyfyrwyr sy'n adeiladau gwag mewn gwirionedd?