Targedau Lleihau Allyriadau Carbon

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:17, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn datgan bod ein targedau carbon yn berthnasol yn y broses gynllunio. Maent hefyd yn cymhwyso'r dull canol trefi yn gyntaf sy'n pennu y dylid lleoli datblygiadau manwerthu a masnachol yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae creu cymunedau gwyrddach a glanach yn rhan annatod o'n gwaith trawsnewid trefi.