Y Gyllideb Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:50, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod y cyhoeddiad diweddaraf am arian i lywodraeth leol i'w groesawu'n fawr wrth gwrs. Dylid rhoi clod lle mae'n ddyledus—credaf fod y ffaith y bydd yn cael ei roi allan ar sail hawliadau yn syniad gwych. Roeddwn am wybod a all y Gweinidog roi hyder inni heddiw y caiff hawliadau eu hasesu'n deg, o gofio bod rhai cynghorau llai, fel Sir Fynwy, wedi cael eu taro'n anghymesur oherwydd y fformiwla ariannu annheg, sydd, dros y blynyddoedd, wedi lleihau eu cronfeydd wrth gefn i lefelau isel, tra bod cynghorau eraill sy'n cael eu hariannu'n well wedi cronni cronfeydd wrth gefn enfawr o dros £100 miliwn, er enghraifft.