Tai Amlfeddiannaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:02, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Ydw, Mick, rwy'n fwy na pharod i fynychu cyfarfod o'r fath. Mewn gwirionedd, rwyf eisoes wedi mynychu cyfarfodydd o’r fath gyda nifer o awdurdodau eraill a chanddynt nifer fawr o dai amlfeddiannaeth. Lywydd, tybed a ddylid cynnull grŵp o ACau ar draws y Senedd sy'n cael eu heffeithio gan hyn—gwn fod gan Aberystwyth rai o'r problemau, yn sicr, mae hynny’n wir am fy etholwyr yn Abertawe, mae’n wir am Bontypridd ac mae nifer o drefi ledled Cymru a chanddynt brifysgolion yn wynebu'r broblem benodol hon. Felly, rwy'n fwy na pharod i fynychu'r cyfarfod hwnnw, Mick, ond credaf y gallai fod achos dros ddod â nifer o ACau y gwn fod ganddynt ddiddordeb yn y maes at ei gilydd fel y gallwn drafod rhai o'r atebion. Gallaf weld sawl un yn ysgwyd eu pen o amgylch y Siambr.