Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch i chi am yr ymateb hynny. Mae'r sicrwydd wedi cael ei roi, wrth gwrs, ynglŷn â digolledu yn y chwarter cyntaf. Dwi jest eisiau eglurder y bydd hynny yn dilyn yn ail chwarter y flwyddyn ariannol yma. Ond hefyd, wrth gwrs, mae nifer o awdurdodau lleol nawr yn cynllunio ar gyfer eu cyllideb y flwyddyn nesaf, a rhai ohonyn nhw yn ystyried toriadau adrannol. Felly, dwi'n gofyn i chi a oes yna unrhyw arweiniad neu unrhyw neges y gallwch chi ei roi y prynhawn yma i'r awdurdodau hynny wrth gynllunio, er mwyn sicrhau, wrth gwrs, na fyddan nhw'n torri llawer o'r gwasnaethau allweddol sydd ar gael ar hyn o bryd ar yr adeg pan fydd eu hangen nhw yn fwy nag erioed?