Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 16 Medi 2020.
Mae cynghorau tref wedi bod, ac yn parhau i fod, yn rhan bwysig o’r ymateb i COVID-19 a’r gwaith adfer. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau tref i arfer eu pwerau cyfredol i wneud gwahaniaeth i'w cymunedau lleol, ac mae'n cyflwyno deddfwriaeth i roi ystod ehangach o bwerau i'r sector, cyhyd â bod rhai amodau'n cael eu bodloni. Rydym hefyd yn ceisio grymuso cynghorau tref ymhellach drwy ddarparu mynediad at gynlluniau cyllido Llywodraeth Cymru a'n gwaith Trawsnewid Trefi.