Cyfyngiadau Symud Lleol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:54, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Caroline. Mae gan swyddogion iechyd yr amgylchedd bŵer i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyniad. Gallant gyhoeddi hysbysiadau gwella neu gau adeiladau am dorri rheoliadau coronafeirws ac o 14 Medi ymlaen, gallant gau safleoedd, digwyddiadau neu fannau cyhoeddus ar sail iechyd y cyhoedd. Mae gan yr heddlu bwerau gorfodi hefyd os nad yw pobl yn ymateb i swyddogion iechyd yr amgylchedd.