Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Felly, mae gennym chwe mis i fynd ac yn ôl fy nghyfrifiadau i, mae llawer iawn i'w wneud eto. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, gan ein bod yn edrych ar yr angen am fwy fyth o dai cymdeithasol, er enghraifft, fel y mae ein profiad o'r ffordd y gwnaethom ymdrin â'r argyfwng digartrefedd, a'r rheini heb do uwch eu pennau ar y strydoedd—. A chredaf fod angen inni fod yn onest fel y gall pleidiau sy'n paratoi ar gyfer yr etholiad nesaf edrych ar beth fyddai'n darged rhesymol i Lywodraeth nesaf Cymru ei osod. A dywedaf hyn gan ddisgwyl na fyddwch bellach yn gallu cyrraedd y targed o 20,000, ac mae rhesymau dros hynny; ni fyddwn yn dymuno eich cosbi. Ond mae angen gonestrwydd arnom er mwyn inni allu cynllunio'n effeithiol, oherwydd mae'n ymddangos bod tai o'r diwedd, ledled y DU, a'r angen i adeiladu llawer mwy o dai, yn codi i frig yr agenda.