Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 16 Medi 2020.
Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd Helen Mary, yn enwedig mewn perthynas â'r safbwynt cryf ac egwyddorol o blaid datganoli budd-daliadau, a'r gallu y byddai'n ei roi i ni edrych ar ffyrdd arloesol ymlaen, megis yr incwm sylfaenol cyffredinol, y gwn ei fod yn ddiddorol iawn i lawer iawn o bobl, ac sy'n cynnig pob math o bosibiliadau.
Roedd Huw Irranca-Davies yn dweud yn gadarn iawn fod arnom angen y pŵer yma yng Nghymru i gael y system a fyddai'n cyflawni ar ran ein cymunedau, a pho agosaf ydyw—y system fudd-daliadau—i Gymru, yn amlwg, y mwyaf o allu sydd gennym i wneud hynny, ac yn amlwg, dyna'r ddadl yn ei hanfod, a chredaf fod Huw wedi'i roi'n rymus ac yn effeithiol iawn.
Soniodd Delyth Jewell am stigma, sy'n gymaint o broblem, onid yw? A gwyddom gan Cyngor ar Bopeth—a gwn fod Delyth wedi sôn am ei hymwneud blaenorol â hwy—gyda gwaith diweddar a wnaethant, mae'n dangos bod honno'n broblem barhaus, mae'n un o'r rhwystrau gwirioneddol o ran cael pobl i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, ac mae diffyg ymwybyddiaeth hefyd o ran yr hyn y gallai pobl fod yn gymwys i'w gael. Felly, mae gwir angen yr ymgyrch honno i godi ymwybyddiaeth ac i gynyddu'r nifer sy'n hawlio, ac mae honno wedi bod yn alwad gref gan gynifer o bobl ers cyhyd. Rydym wedi gweld datblygiadau sydd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n hawlio, ond yn amlwg, mae llawer i'w wneud o hyd, ac mae'r sefydliadau sy'n gweithio ar lawr gwlad yn dal i dynnu sylw at hynny.
O ran yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud, credaf ein bod i gyd yn cydnabod, wrth gwrs, fod llawer iawn o waith caled wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, ac mae hynny wedi bod mor hanfodol ac i'w groesawu, a byddai pawb ohonom am gydnabod hynny'n llawn. Credaf mai un peth y mae'n ei ddangos—a chredaf fod Sefydliad Bevan wedi bod yn awyddus eto i dynnu sylw at hyn—yw bod llawer y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud o ran yr hyn y byddem yn ei alw'n fras yn fudd-daliadau—rhai ohonynt yn arian parod, a rhai ohonynt yn lle arian parod—yng Nghymru. Rydym wedi dangos y gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gyflawni'n effeithiol drwy'r pandemig, a chredaf y dylai hynny roi mwy o hyder i ni y gallem wneud yr un peth gyda mwy o ddatganoli a mwy o bŵer dros fudd-daliadau yma yng Nghymru.
Ceir rhai problemau, a gwn fod Sefydliad Bevan, er enghraifft, yn teimlo y gellid gwneud mwy yng Nghymru i gael dull cydlynol a chynhwysfawr, fel bod gofynion cymhwysedd cyffredin ar gael ar gyfer gwahanol fudd-daliadau. Gallech gael un ffurflen ar gyfer nifer, yn hytrach na ffurflenni ar wahân, ac maent yn teimlo y gellid gwneud rhywfaint o'r gwaith hwn rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn awr i helpu yn ystod gaeaf sy'n debygol o fod yn anodd iawn, a byddai hwnnw'n waith pwysig iawn, i baratoi'r ffordd ar gyfer system fudd-daliadau fwy datganoledig yn y tymor hwy.
Ond rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am barhau i edrych ar y datganoli pellach hwn a chydnabod yr achos, oherwydd rwy'n meddwl, yn y bôn, y byddai llawer ohonom fel Aelodau o'r Senedd yn gwybod o'n cymorthfeydd etholaethol o wythnos i wythnos yn union pa mor niweidiol yw llawer o effeithiau system fudd-daliadau'r DU a faint o welliant sydd ei angen ac y gellid ei gyflawni'n eithaf hawdd mewn rhai achosion drwy weinyddu gwell a gweinyddu mwy unedig, heb fynd i sôn am fwy o gyllid.
Felly, rwy'n meddwl, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, fod llawer o waith i'w wneud eto ar hyn, ond mae llawer iawn o dir cyffredin o ran y safbwyntiau ar draws y Siambr, a chredaf y dylai hynny fod yn galonogol iawn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r gwaith a wnaethant yn effeithiol gydag awdurdodau lleol drwy gydol yr haf yn darparu budd-daliadau pwysig. Gallwn wneud mwy a dylem wneud mwy, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ar y sail honno. Diolch yn fawr.