Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau, y pwyllgor a'r Senedd ehangach, am eu cyfraniadau, ac rwy'n croesawu'r cyfle o'r diwedd i allu ymateb i'r ddadl hon ac i adroddiad ymchwiliad y pwyllgor heddiw.
Fel y clywsoch yma heddiw yn ystod y ddadl, mae pob un ohonom yma'n gwybod yn iawn sut y mae'r pandemig COVID-19 wedi arwain at gyfnod anodd i'n cymunedau ac i'n gwlad. Rydym wedi gweithio'n galed fel Llywodraeth i gamu i mewn a darparu cymorth lle gallwn, yn enwedig i'r unigolion a'r teuluoedd mwyaf agored i niwed.
Gwelsom yn gynnar yn y pandemig Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn gwneud rhai newidiadau i'r cymorth ariannol a gynigid a'r ffordd y câi ei ddarparu. Er bod y newidiadau hyn i'w croesawu, ymateb cyndyn a gafwyd i ymyriadau eraill a allai fod yn fwy allweddol. A hyn er gwaethaf sylwadau mynych, nid yn unig gan wleidyddion Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru, ond gan sefydliadau anllywodraethol, dinasyddion a rhanddeiliaid o bob rhan o'r wlad. Mae ailgyflwyno'r system sancsiynau a'r gwrthodiad llwyr i hepgor yr oedi o bum wythnos cyn taliad cyntaf y credyd cynhwysol yn enghreifftiau o benderfyniadau sydd wedi gwthio pobl agored i niwed ymhellach i galedi ariannol. Rhwng canol mis Mawrth a chanol mis Gorffennaf roedd 120,000 o bobl yn hawlio credyd cynhwysol o'r newydd yng Nghymru. Pobl y mae angen cymorth arnynt ar frys yw'r rhain ac angen i rwyd diogelwch nawdd cymdeithasol fod yno, ac nid biwrocratiaeth.
Yma yng Nghymru, fe wnaethom weithredu'n gyflym i sicrhau bod cymorth ar gael. O 1 Mai, gweithredwyd newidiadau sylweddol i'r gronfa cymorth dewisol, sy'n darparu taliadau brys i bobl sy'n wynebu'r caledi ariannol mwyaf eithafol. Ychwanegwyd £8.9 miliwn ychwanegol at y gronfa i gefnogi cynnydd yn nifer y ceisiadau gan bobl yr effeithiwyd arnynt, a chafodd y meini prawf cymhwysedd eu hailwampio i gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys pobl a oedd yn aros am eu taliad credyd cynhwysol cyntaf a'r rhai a oedd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd y pwysau ariannol a achoswyd gan y pandemig. Mae nifer y taliadau a wneir bellach yn dair gwaith y lefel cyn y cyfyngiadau symud. Ers dechrau'r pandemig, mae'r gronfa hon wedi cefnogi dros 64,000 o ddyfarniadau ac wedi gweld £3.9 miliwn o daliadau cymorth brys yn cael eu gwneud i bobl y nodwyd eu bod yn y sefyllfaoedd mwyaf enbyd oherwydd COVID-19. Ar 4 Awst, cyhoeddais ein bod yn ymestyn cyfnod llacio rheol y gronfa cymorth dewisol hyd at 31 Mawrth 2021. Bydd hyn yn golygu y gall pobl sy'n wynebu caledi barhau i wneud pump yn hytrach na thri hawliad mewn cyfnod o 12 mis, a bydd dileu'r terfyn 28 diwrnod rhwng hawliadau yn parhau.
Drwy gydol y pandemig hwn, rydym wedi parhau i adeiladu ar y cymorth trawslywodraethol i unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed drwy ddarparu cyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sy'n cyfateb i arian parod i alluogi dinasyddion Cymru i gadw arian mawr ei angen yn eu pocedi. Darparwyd gwerth £40 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim i helpu teuluoedd i fwydo eu plant tra bod ysgolion ar gau, ac rydym wedi dyrannu £2.85 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y ceisiadau am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Rydym hefyd wedi cefnogi elusennau bwyd a sefydliadau bwyd cymunedol i ateb y galw digynsail am fwyd brys gan y bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng. Mae cyllid o fwy nag £1 filiwn wedi'i gymeradwyo o gynllun grant cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol i gefnogi dosbarthu bwyd, ac ym mis Mai cytunais ar gyllid o fwy na £98,000 i'w ddyrannu i FareShare Cymru i ddatblygu mecanwaith addas ar gyfer mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd yng ngogledd Cymru drwy ailddosbarthu bwyd dros ben. Mae mwy o bobl nag erioed wedi gorfod troi at fanciau bwyd ac rydym wedi gwneud llawer iawn i sicrhau nad yw'r banciau bwyd hynny eu hunain yn mynd yn brin.
Pan edrychwn ar effaith y pandemig ar lefelau tlodi, gan gynnwys tlodi plant, gwyddom ei fod yn debygol o fod yn sylweddol. Yn erbyn y cefndir hwn rydym wedi rhoi camau ar waith i alluogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm a helpu i leihau costau byw hanfodol i aelwydydd incwm isel. Mae llawer o'r camau hyn wedi'u llywio gan ymchwiliad y pwyllgor, a hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith sylweddol ac ystyrlon yn y maes hwn.
Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau ac rydym yn gweithio gydag Oxfam Cymru i ymgorffori eu dull bywoliaeth gynaliadwy yn rhaglen y gronfa cymorth dewisol i ddechrau cyn i ni geisio ei symud ymlaen i raglenni cymorth budd-daliadau eraill i Gymru. Roeddwn wedi gobeithio mynychu sesiwn gweithdy ymarferol, ond symudodd ar-lein ac roeddwn yn falch o gymryd rhan ynddo gydag Oxfam Cymru ar y dull bywoliaeth gynaliadwy a gweld yr ystod o arfau sydd ar gael yn uniongyrchol. Mae Oxfam Cymru bellach wedi cytuno'n garedig i gyflwyno mwy o'r sesiynau ymwybyddiaeth hyn i'n partneriaid a gymeradwywyd gan y gronfa cymorth dewisol yn ystod y mis hwn.
Mae'r holl waith hwn yn seiliedig ar y ddealltwriaeth glir ei bod yn hanfodol fod pawb sy'n gymwys i gael cymorth yn ymwybodol o'r ystod lawn o fudd-daliadau sydd ar gael iddynt a'u bod yn eu cael. Wrth agor, soniodd Cadeirydd y pwyllgor am yr angen i godi ymwybyddiaeth fel un o'r argymhellion ac i atgyfnerthu'r dull hwn rydym yn buddsoddi £800,000 i ddarparu mentrau i alluogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm. Byddwn yn cynnal ymgyrch gyfathrebu i gyd-fynd â newidiadau i'r cynllun cadw swyddi ym mis Hydref, gan weithio gyda'r trydydd sector ac awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r budd-daliadau, y gwasanaethau a'r rhaglenni sy'n bodoli eisoes i liniaru neu leddfu tlodi incwm, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau o'r Senedd hon yn awyddus i helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hynny ochr yn ochr â ni.
Cynhelir hyfforddiant ar-lein rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ebrill 2021 i weithwyr rheng flaen i'w galluogi i ddarparu cymorth i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi wneud y mwyaf o'u hincwm. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio'n helaeth gydag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod gwasanaethau cynghori yn cyrraedd yn ddwfn i mewn i gymunedau ac yn cael eu darparu o fannau lle mae'r bobl fwyaf anghenus yn mynd iddynt.
Ddirprwy Lywydd, mae ein hardaloedd lleol wedi ymateb yn eithriadol yn ystod yr argyfwng hwn i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i deuluoedd incwm isel. Byddwn yn parhau i'w cynorthwyo i ddarparu atebion lleol, gan adolygu gyda'n gilydd sut y gallwn symleiddio'r ffordd y caiff budd-daliadau Cymru eu gweinyddu a'u gwneud yn fwy hygyrch.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn gyffwrdd â rhai o sylwadau'r Cadeirydd pan fynegodd ei siom ynglŷn â'r ymateb i argymhellion 10 i 17. Er y gallaf ddeall ei fod efallai'n teimlo—[Anghlywadwy.]—rwy'n awyddus iawn i ailadrodd y ffordd y mae llawer o fewn Llywodraeth Cymru, nid fi, nid Gweinidogion, wedi mynd allan o'u ffordd yn yr argyfwng hwn i sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn effeithiol i bobl sydd angen help yn y fan a'r lle, a'u cefnogi. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn cydnabod yn llwyr fel Llywodraeth y gallai datganoli pwerau penodol sy'n ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol roi ystod ehangach o arfau inni fynd i'r afael â thlodi, a dyna pam y gofynasom i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymgymryd â'r gwaith yn y maes hwn yn y lle cyntaf a byddwn yn parhau i edrych ar dystiolaeth a hefyd yn cynnwys tystiolaeth y pwyllgor hwn yn ein gwaith.
Gobeithio y bydd yr Aelodau'n deall, yn y tymor byr, fod yn rhaid inni ganolbwyntio ar ddefnyddio ein pwerau presennol hyd yr eithaf—ac ie, mewn rhai achosion, yn well—i sicrhau ein bod yn cefnogi'r bobl sydd â'r angen mwyaf yn y presennol. Dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud a dyna fyddwn ni'n parhau i'w fynnu gan eraill. Diolch yn fawr.