Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Medi 2020.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r cyhoeddiad y bydd ysbyty'r Faenor yn agor ganol mis Tachwedd yn hytrach na'r dyddiad gwreiddiol a fwriadwyd ym mis Mawrth 2021 i'w groesawu'n fawr. Yng nghyd-destun coronafeirws, bydd yn darparu gofal critigol a gofal anadlol acíwt i 600,000 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.