Trafnidiaeth Gyhoeddus Drawsffiniol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 1:46, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, cyn y bore yma, bu'n fisoedd lawer cyn hynny ers i Brif Weinidog y DU alw cyfarfod COBRA gyda'r arweinyddion datganoledig ar draws teulu gwledydd y Deyrnas Unedig. A fyddai materion trafnidiaeth drawsffiniol yn ystod pandemig COVID-19, yn ogystal â llawer o faterion eraill, yn cael sylw llawer gwell trwy gyfathrebu rheolaidd a mater o drefn rhwng y Llywodraethau perthnasol yng Nghymru a Lloegr? Sut gall Llywodraeth Cymru barhau i annog Llywodraeth y DU ei bod yn dda i siarad?