Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 22 Medi 2020.
Diolch am hynny. Un o ganfyddiadau'r adroddiad yw effaith y cyni parhaus a gafodd ei osod ar Gymru gan gynlluniau gwario Llywodraeth y DU. Roedd y cyni hwnnw'n lleihau buddsoddiad awdurdodau lleol mewn diwydiannau, a mathau eraill o gyllid y byddem wedi disgwyl iddo ddod i Gymru, a phenderfyniad gwleidyddol yn unig ydoedd.
Felly, pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â Changhellor y DU i dynnu sylw at yr effaith y mae eu mesurau cyni, sydd wedi'u gosod ar sail wleidyddol, yn ei chael, ac a gaiff, ar Gymru os ydyn nhw'n parhau ar hyd y trywydd hwnnw? Ac a wnewch chi ofyn i Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddechrau gweithredu er budd Cymru a pharchu'r setliad datganoli?