Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 22 Medi 2020.
Llywydd, diolchaf i Adam Price am hynna. Fe wnes i ddal rhywfaint o'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU yn Nhŷ'r Cyffredin ond nid y cwbl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig atgoffa cyd-Aelodau ein bod ni'n dechrau mewn sefyllfa wahanol iawn yng Nghymru. Mae ein dull o lacio cyfyngiadau coronafeirws wedi bod ar wahanol gyflymder ac mewn gwahanol ffordd i'r hyn a wnaed dros ein ffin. Rydym ni eisoes wedi gwneud llawer o'r pethau y mae Prif Weinidog y DU yn sôn am eu gwneud heddiw yng Nghymru. Felly, yn y rhan o'i ddatganiad a glywais, roedd yn sôn am annog pobl unwaith eto i weithio gartref. Wel, nid ydym ni erioed wedi awgrymu dim byd arall yn hytrach na hynny yng Nghymru. Nid ydym ni erioed wedi mynd ar y trywydd o ddweud y dylai pobl fynd yn ôl ar y bws a mynd yn ôl i'r gwaith. Ein cyngor ni o'r cychwyn fu os gallwch chi weithio yn llwyddiannus gartref, yna dyna ddylech chi ei wneud. Byddwn yn atgyfnerthu'r neges honno heddiw, ond nid yw'r neges yng Nghymru erioed wedi newid.
Clywais Prif Weinidog y DU yn dweud y bydd materion sydd mewn canllawiau yn Lloegr yn cael eu rhoi mewn rheoliadau. Wel, rydym ni wedi gwneud mwy o ddefnydd o reoliadau yma o'r cychwyn. Yn gynnar iawn, rhoesom y pellter o 2 fedr yn y gweithle yn ein rheoliadau. Nid canllawiau oedden nhw yng Nghymru, ond rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth. Pan gyhoeddwyd canllawiau gennym ar gyfer y diwydiant lletygarwch, yna mae ein rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r sawl sy'n gyfrifol am leoliad o'r fath roi sylw dyledus i'r canllawiau hynny. Felly, rydym ni eisoes wedi gwneud hynny mewn modd gwahanol. Mae Prif Weinidog y DU yn mynd i dynhau y rheol chwech, wel, mae ein rheol chwech ni wedi bod yn dynnach o'r cychwyn. Caniateir i chi gyfarfod rhywun o'ch aelwyd estynedig yn unig, nid chwech o bobl o unrhyw hen aelwyd a allai gyfarfod dan do. Ac fe'i clywais yn dweud ei fod yn mynd i atal cynlluniau arbrofol ym myd y celfyddydau a chwaraeon. Wel, yn anfoddog, gohiriwyd ein cynlluniau arbrofol ni 10 diwrnod yn ôl. Cawsom dri chynllun arbrofol llwyddiannus ac roeddem ni'n gobeithio, yn y tair wythnos hon, y gallem ni fod wedi gwneud mwy. Penderfynwyd gennym 10 diwrnod yn ôl bod pethau yn rhy anodd i ni allu gwneud hynny. Felly, rydym ni'n dechrau mewn gwahanol sefyllfa. Ceir pethau y byddwn ni'n eu hystyried yn ystod y dydd. Byddwn yn siarad â'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, yn y gwasanaeth iechyd, ym maes iechyd y cyhoedd ac yn yr heddlu am y mesurau ychwanegol y gallem ni eu cymryd, ond byddwn yn gwneud hynny, fel bob amser, gyda'n partneriaid. Byddwn yn cynllunio ac yna byddwn yn gwneud cyhoeddiad.
Ledled Cymru, Llywydd, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn parhau i gadw at y rheolau yn ofalus iawn ac yn gydwybodol iawn. Maen nhw eisiau gwneud y peth iawn ac maen nhw eisiau gwybod beth yw'r peth iawn i'w wneud. Ceir lleiafrif bach o bobl a gymerodd y neges rywsut ar gyfer yr haf, pan oeddem ni'n lleihau cyfyngiadau, bod coronafeirws ar ben. Y rheini yw'r bobl y mae'n rhaid i ni eu hargyhoeddi bod angen iddyn nhw ailddechrau gwneud yr holl bethau yr oedden nhw'n eu gwneud yn gynharach yn yr haf, a bydd hynny'n golygu y bydd yr ymdrech ledled Cymru yn cael ei chryfhau unwaith eto. Dyna fydd fy neges i bobl yng Nghymru heddiw. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price: nid oes yn rhaid i hwn fod yn batrwm ar gyfer y dyfodol, ond os nad yw hynny am fod, mae hynny'n dibynnu yn hollbwysig nid yn unig ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ond ar yr hyn y mae pob dinesydd yn ei fywyd ei hun yn ei wneud er mwyn gwneud yr ymdrech gyfunol honno sydd, rwy'n credu, wedi bod yn nodweddiadol o'r ymateb yng Nghymru.