Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 22 Medi 2020.
Mae'n amlwg nad yw ffydd pleidleiswyr wedi ei cholli yng Nghymru. Pe byddai'r Aelod yn trafferthu i edrych ar unrhyw un o'r arolygon, maen nhw'n dangos bod lefelau ffydd yn Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig hwn ar lefelau eithriadol o uchel—75 y cant ac uwch yn Llywodraeth Cymru; 45 y cant yn y Llywodraeth y mae ei phlaid hi yn ei rhedeg yn San Steffan. Y pwynt a wnes i, Llywydd, yw hwn: mae'n rhaid i unrhyw blaid mewn Llywodraeth ennill ac adennill ffydd mewn unrhyw etholiad. Mewn pum etholiad yn olynol, mae'r Blaid Lafur wedi ennill ffydd pobl yng Nghymru, ac nid ydym ni'n cymryd dim o hynny yn ganiataol. Byddwn yn gweithio mor galed ag y gallwn ni i barhau i ennill y ffydd honno. Rwy'n tybio bod unrhyw blaid sy'n ceisio cael pleidleisiau etholwyr Cymru yn ceisio gwneud yn siŵr eu bod ganddyn nhw ffydd ynddi. Does dim byd anarferol yn yr hyn a ddywedais, ac rwy'n dychmygu ei fod yn cyfeirio at lawer o'i phlaid hi cymaint ag unrhyw blaid arall.