Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 22 Medi 2020.
Mi gefnogwn ni'r rheoliadau yma heddiw yma, achos, yn gyffredinol, mi rydyn ni'n cytuno efo'r angen i gyflwyno, yn gyffredinol, y cyfyngiadau, neu lacio'r cyfyngiadau, sydd ynddyn nhw. Ond, mi wnaf innau ychydig o bwyntiau, y cyntaf o'r rheini hefyd am y broses sgrwtini a'r ffaith bod wythnosau lawer wedi pasio yn fan hyn rhwng cyflwyno rhai o'r newidiadau yma—hyd at fis ers cyflwyno rhai o'r newidiadau yma yn achos Rhif 6. Wrth gwrs bod yr amgylchiadau presennol yn ddigynsail, ond nid yn unig mae'r sefyllfa rydyn ni ynddi rŵan o ran yr oedi yma yn hynod anarferol, mae o yn anfoddhaol iawn yn ddemocrataidd. Mae o'n creu dryswch democrataidd, dwi'n meddwl, ond mae o hefyd yn creu dryswch ymarferol. Er enghraifft, efo gwelliannau Rhif 6, mae'n sôn am ganiatáu peilota cyfarfodydd awyr agored hyd at 100 o bobl mewn chwaraeon ac ati; mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau heddiw bod y peilota wedi cael ei ddyfarnu i fod yn rhy beryglus i barhau ac wedi dod i ben 10 diwrnod yn ôl, a dyma ni'n cael ein gofyn i gymeradwyo'r gwelliannau hynny. Felly, mae o'n creu dryswch.
Mae'n rhaid, yn y pandemig yma yn gyffredinol, i negeseuon fod yn glir. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yn gyffredinol edrych ar sut mae eu negeseuon nhw'n cael eu clywed a sut mae eu negeseuon nhw'n cael eu deall. Rydyn ni'n gwybod yn iawn, o engreifftiau o gyfweliadau ar y cyfryngau gan bobl yn ein cymunedau ni, bod pobl yn dal wedi'u drysu gan yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei wneud o ran eu hymddygiad mewn llawer o achosion. Felly, dwi'n apelio am negeseuon cliriach, ac mae hynny, i fi, ynghlwm â'r angen i'r broses sgrwtini fod yn agosach at amserlennu y rheoliadau eu hunain. Os oes yna ddryswch yn fan hyn, yn ein Senedd genedlaethol ni, does yna ddim rhyfedd bod yna ddryswch ar lawr gwlad.