Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid. A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â bron bopeth a ddywedodd Nick Ramsay a fy nghyfaill Alun Davies? Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud wrth Nick Ramsay yw pe baem yn gostwng cyfradd uwch y dreth incwm 10 y cant, onid yw'n credu y byddai Lloegr, dros y ffin, yn gwneud yr un peth yn union, wrth inni gymryd rhan mewn ras i'r gwaelod? Dyna fy mhryder—os byddwn yn dechrau cystadleuaeth treth, fe fyddwn ni, fel y rhan lai o faint a gwannach yn colli.
Mae tair effaith i amrywio treth incwm: ymddygiad unigol, o ran symud i ardal dreth is; effaith ar ansawdd a lefel gwasanaethau cyhoeddus; a'r effaith wleidyddol a achosir drwy dalu mwy neu lai na'r rhai rydych yn gweithio ochr yn ochr â hwy neu'r rhai sy'n byw ychydig gannoedd o lathenni oddi wrthych efallai. Canolbwyntiodd yr astudiaeth a wnaethom yn llwyr ar y cyntaf o'r opsiynau hyn—beth fyddai pobl yn ei wneud. Wrth i Gymru nesáu at y drydedd flwyddyn ers datganoli treth incwm yn rhannol a blwyddyn olaf ymrwymiad Llywodraeth bresennol Cymru i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru, a blwyddyn etholiad, rwy'n credu ei bod yn briodol iawn i hyn gael ei drafod yn agored.
Mae gennym ffin, fel y dywedodd Nick Ramsay yn gynharach, gyda 17 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir iddi. Mae llawer o bobl yn croesi'r ffin bob dydd i fynd i'w gwaith. A gwyddom hefyd, fel y byddai ein diweddar ffrind, Steffan Lewis, wedi dweud, 'Nid ydym yn unigryw yn hyn. Mae gan wledydd eraill ledled Ewrop a ledled y byd yr un pethau'n union; pam ein bod yn credu bod Prydain yn unigryw?' Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod yn dweud hynny'n rheolaidd iawn—rwy'n sicr yn ei gofio, ac rwy'n siŵr fod Aelodau eraill yn ei gofio. Rwy'n credu bod hynny'n hollol wir.
A gallwn edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn astudiaethau rhyngwladol neu'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, ac mae'n debyg fod gennym lai o bobl yn cymudo na lleoedd fel Lwcsembwrg a gwledydd Benelux, a hefyd rhai o'r Länder yn yr Almaen. Ond dengys astudiaethau rhyngwladol fod pobl ar incwm uchel yn ymatebol i gyfraddau treth. Gallant benderfynu ble maent yn byw, ble mae ganddynt nifer o gartrefi, a gallant benderfynu pa un fydd eu prif gartref. Mae rhai proffesiynau, fel bargyfreithwyr, yn symudol iawn. Gwyddom hefyd nad ystyriaethau treth yw'r unig ffactorau sy'n dylanwadu ar fudo. Ni ellir tanbrisio dylanwad ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â threth—cyflogau, teulu, prisiau tai, a byddwn yn dweud prisiau tai yn enwedig, ac ansawdd bywyd—a rhaid iddynt fod yn rhan o ymchwil Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar effaith amrywiadau treth ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Dywedwyd wrthym mai ychydig o effaith a gaiff newid yng nghyfradd sylfaenol treth incwm ar fudo. Wel, pam y byddai'n cael effaith? Oherwydd nid yw arbed y symiau bach hynny o arian yn mynd i'ch cael i symud milltiroedd lawer. Gwyddom o'r dreth gyngor fod gennym amrywiadau enfawr yn y nifer ym mhob band, ac mae gennym amrywiadau enfawr hefyd yn y swm a delir. Nawr, gadewch i ni gymharu Blaenau Gwent a Mynwy. Mae gan Flaenau Gwent dros hanner eu heiddo ym mand A; mae gan Fynwy ychydig dros 1 y cant o'u heiddo ym mand A, a bron i 6 y cant yn y ddau fand uchaf. Praesept band D ym Mlaenau Gwent yw 1,712. Yng Nghasnewydd 1,198, a Mynwy 1,381. Ceir gwahaniaeth sylweddol. Ond os edrychwch ar brisiau eiddo a chostau morgais—maent hefyd yn amrywio'n sylweddol. Edrychais ar Zoopla—mae lleoedd eraill ar gael—i edrych ar dai i'w prynu: gallwch gael tŷ pâr tair ystafell wely neis iawn yn Nhredegar am £150,000. Fe gaiff y swm hwnnw fflat un ystafell wely i chi ym Mynwy.
Gwyddom gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod cystadleuaeth treth yn gyffredin ac yn digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd. Trethi ar incwm cyfalaf yw'r rhai mwyaf agored i symudedd y sylfaen drethu, wedi'u dilyn gan drethi incwm personol. Mae ffactorau eraill hefyd yn effeithio ar gystadleuaeth treth a symudedd y sylfaen drethu, megis prisiau tai, gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a theithio haws i'r gwaith. Hefyd, mae pobl yn aml yn byw mewn ardal lle cânt fanteision nad ydynt yn rhai ariannol—mynediad at gymorth teuluol, gofal plant teuluol, parciau, traethau a chyfleusterau hamdden. Credaf y byddai effaith wleidyddol codi trethi'n uwch na rhai Lloegr yn ddifrifol iawn. 'Pam ydw i'n talu mwy na rhywun yn Lloegr ar yr un incwm?' Bydd yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn pleidleisio.
Er ein bod yn gwybod bod grŵp 'Yes Cymru' yn barod i weld holl drethi Cymru'n codi dros 20 y cant, ni chredaf fod hon yn farn a goleddir gan bawb. Hefyd, gwyddom y byddai cynnydd o 1 y cant yn y gyfradd sylfaenol yn codi £200 miliwn. Mae hwnnw'n swnio'n swm mawr o arian, ond os rhowch hynny mewn persbectif, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos bod saith bwrdd iechyd Cymru, dros y tair blynedd diwethaf, £352 miliwn yn y coch.
Mae'r Alban wedi bod â gallu i amrywio treth incwm ers blynyddoedd lawer—ni wnaeth ei ddefnyddio. Gallai symud hyd at 3 y cant i fyny neu 3 y cant i lawr. Beth sy'n digwydd? Nid yw cynyddu treth incwm yn codi llawer o arian, mae'n gwneud pobl yn ddig, ac oni bai bod y cynnydd yn fawr nid yw'n cael unrhyw effaith sylweddol ar wariant cyhoeddus. Nid yw lleihau treth incwm yn costio llawer o arian ond mae'n lleihau gwariant ar wasanaethau. Dyna pam y cadwodd yr Alban y dreth yr un fath, ac rwy'n siŵr y byddwn ninnau'n gwneud hynny.