Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch. A diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gynnal yr ymchwiliad hwn a llunio ei adroddiad. Ystyriodd yr ymchwiliad rai materion gwirioneddol bwysig. Mae gwahaniaethau mewn treth incwm mewn gwahanol rannau o'r DU yn gysyniad cymharol newydd i ni ei ystyried, ac rydym yn dechrau deall yr effeithiau posibl ar ein cymunedau. Mae cael yr adroddiad hwn, ynghyd â mynediad at y data a'r dadansoddiadau perthnasol, yn hanfodol i'n dull o lunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.
I fod yn glir, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i beidio â newid cyfraddau treth incwm Cymru dros oes y Senedd hon. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y dystiolaeth ar effaith debygol unrhyw amrywiadau ar drethdalwyr Cymru, a'u hymatebion ymddygiadol posibl, wrth inni ystyried ein polisi treth datganoledig yn y dyfodol.
Mae'r alldro diweddar a'r alldro rhagamcanol ar gyfer yr Alban wedi dangos y gallai fod gwahaniaethau mawr yn nhwf refeniw gwahanol rannau o'r DU, wedi'i gronni i raddau helaeth ar ben uchaf y dosbarthiad incwm. Felly, rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor ac yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor. Yn wir, fel y mae fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor yn dweud yn glir, mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyson â fframwaith strategaeth dreth bresennol Llywodraeth Cymru ac yn cadarnhau mai egwyddorion ein strategaeth drethu bresennol yw'r rhai cywir i Gymru.
Rwy'n cydnabod bod angen llawer mwy o waith i ddeall yn llawn effaith debygol amrywiadau mewn treth incwm ar boblogaeth Cymru. Mae hwn yn faes ymchwil sy'n esblygu yng nghyd-destun y DU, a bydd adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ychwanegu at y corff cynyddol o dystiolaeth. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i asesu sut y mae'r trefniadau presennol yng Nghymru yn perfformio, gan sicrhau cydbwysedd priodol rhwng ysgogiadau treth datganoledig a pherygl o risg ariannol. Bydd y cydbwysedd rhwng buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cystadleurwydd economi Cymru a'r effaith ar drethdalwyr yn flaenllaw mewn penderfyniadau ar drethi datganoledig. Felly hefyd y ffordd y byddwn yn defnyddio trethi fel ysgogiad i hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb, gan ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol, gan gynnwys cyfiawnder a diogelwch economaidd.
Felly, gan droi at rai o'r argymhellion penodol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio'n agos ac yn adeiladol â dadansoddwyr ledled Llywodraeth y DU, gan gynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae'r cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM yn cynnwys mesurau perfformiad a gynlluniwyd i sicrhau bod ffocws parhaus ar nodi a chynnal cofnod cywir a chadarn o boblogaeth Cymru sy'n drethdalwyr.
Bydd y data alldro ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf—blwyddyn lawn gyntaf datganoli treth incwm Cymru—yn dechrau dod ar gael o haf 2020-21, a bydd set ddata fanwl ar gyfer y flwyddyn honno ar gael yn 2022. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda CThEM i sicrhau y gellir darparu'r data hwnnw mewn ffordd hygyrch a defnyddiol i ymchwilwyr. At hynny, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ymchwilio gyda CThEM i effeithiau posibl amrywio trethi. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor eisoes gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymchwiliad hwn.
Fel y mae'r adroddiad yn cydnabod, nid ystyriaethau o ran treth yw'r unig ffactorau sy'n dylanwadu ar fudo. Rhaid i ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â threth, megis cyflogau, teulu, prisiau tai ac ansawdd bywyd fod yn rhan o unrhyw ymchwil yn y dyfodol ar effaith amrywio trethi ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Felly, mae rhan o'n gwaith yn cynnwys ystyried set ddata hydredol i ddarparu ymchwil fwy soffistigedig i effaith ymddygiadol newidiadau treth incwm a gwahaniaethau posibl o fewn y DU. Drwy gydweithio â CThEM, bwriadwn gynhyrchu set ddata a fyddai'n briodol i ymchwilwyr y Llywodraeth ac ymchwilwyr anllywodraethol, gan barhau i barchu cyfrinachedd data treth.
Mae'r pwyllgor yn argymell rhoi ystyriaeth bellach i fater datganoli treth ar gynilion ac incwm difidend i Gymru. Cytunaf fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Wrth gwrs, mae'n ddyddiau cynnar o hyd ar ddatganoli treth incwm yma yng Nghymru, ond serch hynny, dylem fod yn agored i ddatblygiadau pellach o ran datganoli trethi lle mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod achos dros newid.
Dywed y pwyllgor fod yr hinsawdd bresennol yn golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar drethiant i helpu'r adferiad economaidd. Mae'r cynnydd dros dro i'r trothwy ar gyfer dechrau talu'r dreth trafodiadau tir ar eiddo preswyl ar gyfer prynwyr tai yn dangos ein gallu a'n parodrwydd i ddefnyddio ein polisïau treth ochr yn ochr ag ysgogiadau cyllidol eraill i helpu Cymru i wella o'r pandemig byd-eang.
Felly, wrth inni symud ymlaen, bydd y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn helpu i lunio polisïau treth yng Nghymru yn y dyfodol, a'r rôl a chwaraeir gan drethi datganoledig wrth archwilio'r cyfleoedd ac ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Diolch.