11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:04, 23 Medi 2020

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl—ac yn enwedig i'r Gweinidog, wrth gwrs, fel yr oedd hi'n cyfeirio ato fe yn gynharach, am dderbyn yr holl argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor? Dwi'n nodi yn enwedig, wrth gwrs, ei bod hi'n agored ei meddwl i ddatganoli pellach ar bwerau trethiannol i Gymru.

Mae Mike Hedges wedi tynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, pan oedd Nick Ramsay'n cyfeirio at gymaint o bobl oedd yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ddyddiol, dyw hwnna ddim yn rhywbeth unigryw i Gymru. Yn sicr, os rhywbeth, byddwn i'n tybio ei fod e'n digwydd ar lefel uwch mewn gwledydd eraill ar draws y byd yma. Felly, dyw e ddim yn reswm inni beidio â mynd i'r afael â newid y graddfeydd trethiannol os oes angen. Dwi ddim yn meddwl roedd Nick yn awgrymu bod hynny'n rwystr, ond yn sicr mae'n rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohono fe. Ond, fel yr oedd Alun Davies ac eraill yn dweud, mae yna enghreifftiau ar draws y byd o le mae hyn wedi digwydd a lle mae hyn yn cael ei reoli yn effeithiol. Felly, dwi yn teimlo—mae perig i hwnna droi mewn i fwgan mewn ffordd na ddylai fe fod, ac mae'n bwysig ein bod ni'n ymwybodol o hynny. 

Mi gyfeiriodd Nick hefyd, wrth gwrs, at amharodrwydd Llywodraeth Cymru i ystyried amrywio'r graddfeydd trethi ar hyn o bryd. Dwi'n deall efallai pam eu bod nhw'n dweud hynny, ond yn sicr mae'r drafodaeth a'r adroddiad yma a'r ddadl yma yn rhan o'r sgwrs genedlaethol yna sydd angen ei chael nawr. Oherwydd, fel yr oedd Alun eto'n ein hatgoffa ni, mae yn arwydd o Senedd yn dod i oed ein bod ni â pholisïau neu â phwerau trethiannol, ond, wrth gwrs, mi fydd y dimensiwn hwnnw yn ychwanegu dimensiwn newydd iawn i'r etholiad fydd o'n blaenau ni o fewn rai misoedd, gyda pleidiau yn cyhoeddi maniffestos. A dwi yn gobeithio bydd gwaith y pwyllgor yn y maes yma efallai yn help i'r drafodaeth honno o fewn y pleidiau, ond hefyd yn ehangach yng Nghymru, ynglŷn â ble rŷn ni'n mynd o safbwynt polisi treth. Oherwydd, fel y dywedodd e, un peth yw trafod sut mae rhywun yn gwario pres, ond mae'n drafodaeth gwbl wahanol pan ydych chi angen trafod sut rydych chi'n gwario'r pres rydych chi yn ei godi, a sut rydych chi'n codi'r pres yna sydd ei angen arnoch chi er mwyn cwrdd â'ch ymrwymiadau gwariant.

Mae'r ffactorau amrywiol wedi cael eu cyfeirio atyn nhw hefyd. Un elfen yw trethiant, wrth gwrs, i'r hyn sydd yn penderfynu ar symudoledd pobl, ac mae Aelodau wedi bod yn berffaith iawn i gyfeirio at bethau fel lefelau cyflog, prisiau tai, ansawdd bywyd a rhwydweithiau teuluol hefyd, sydd yr un mor bwysig, wrth gwrs, i nifer o bobl. 

Un peth sy'n amlwg, wrth gwrs, yw bod yna lawer mwy o waith sydd angen ei wneud, ac mae hynny'n cynnwys cael darlun mwy eglur efallai o sylfaen dreth Cymru. Mi gyfeiriodd y Gweinidog at yr angen i archwilio'r alldro o flwyddyn gyntaf cyfraddau treth incwm Cymru yr haf nesaf. Mae angen gwella'r gwaith o gasglu a rhannu data yng Nghymru ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd wedi dod drwyddo'n glir yn y ddadl yma, ac ystyried ymhellach beth sy'n lliwio ymddygiad trethdalwyr a sut y gallwn ni ddenu mwy o'r grwpiau yna sydd angen eu denu efallai i gynyddu refeniw. 

Ond megis dechrau y mae ein taith ni o ran datganoli trethi, ac rŷn ni'n cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru wedi dod ar eu traws nhw wrth geisio rhagweld beth fydd trethdalwyr yn ei wneud o ran symud o ran osgoi trethi, ac ymatebion economaidd eraill i newidiadau posib i dreth incwm yng Nghymru. 

Ond mae'n bwysig cydnabod y rôl y gall cyfraddau treth incwm Cymru ei chwarae o ran datblygu economi Cymru. Mae'n gyfle felly inni feddwl yn wahanol, inni fod yn arloesol, ac inni ddatblygu polisïau sy'n helpu'r economi i adfer, wrth gwrs, o'r sefyllfa rŷn ni'n ffeindio’n hunain ynddi ar hyn o bryd. 

Ond, fel rwy'n dweud, gobeithio bod adroddiad y pwyllgor a'r ddadl yma y prynhawn yma wedi cyfrannu at y drafodaeth honno, ac mae honno'n drafodaeth, wrth gwrs, fydd yn parhau i fewn i'r etholiad ym mis Mai a thu hwnt.