Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Llywydd. Dylai pawb allu byw yn y gymuned lle cawson nhw eu magu. Mae'r misoedd diwethaf wedi amlygu pa mor bwysig ydy cael tŷ cyfforddus i fyw ynddo. Nid dim ond pedair wal a tho, ond rhywle diogel, rhywle clyd, cartref. Nid lle, ond lloches. Ac mae cartref hefyd yn rhan o wead ehangach cymuned, yn cynnig cyfle i bobl warchod ei gilydd, i rannu profiadau bywyd.
Ond, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae nifer cynyddol a chynyddol o gartrefi yn diflannu, yn troi nôl at fod yn bedair wal a tho anghysbell, yn eiddo gwag ym mhob ystyr y gair. Mae'r broblem yn un enbyd ac yn gwaethygu. Yn wir, mae'r sefyllfa yn troi'n argyfyngus. Dyw pobl ifanc ddim yn gallu fforddio prynu tŷ yn yr ardal lle cawson nhw eu magu oherwydd bod y prisiau wedi eu chwyddo gan bobl o du fas i'r ardal yn prynu'r tai ar gyfer defnydd hamdden dros yr haf: pedair wal a tho, rhywle i ddianc iddo yn unig; bolthole, chwedl y Daily Mail.
Llywydd, mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol sylfaenol. Dylai'r farchnad dai ddim gadael i bobl prynu tai fel eiddo eilradd ar draul buddiannau'r cymunedau a'r bobl sydd yn byw ynddynt bob dydd o'r flwyddyn. Mae yna rywbeth yn bod yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae angen ymyrraeth. Rwy'n sôn am argyfwng, a gwnaf i amlygu pam. Y flwyddyn ddiwethaf, roedd un ym mhob tri cartref a werthwyd yng Ngwynedd a Môn wedi cael ei werthu fel ail eiddo. Mae 12 y cant o stoc tai Gwynedd yn dai lle mae'r perchennog yn byw tu fas i ffiniau'r ardal. Mae'r gyfradd hon ymysg yr uchaf yn Ewrop.
Pwrpas datganoli oedd ein hymbweru ni fel Aelodau o'r Senedd i weithredu er budd dinasyddion Cymru pan fyddan nhw ein hangen. Maen nhw ein hangen ni nawr. Ond ar hyn o bryd, fel y soniodd yr Athro Richard Wyn Jones mewn erthygl ddiweddar yng nghylchgrawn Barn, mae yna ddiymadferthedd o du Llywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod yna broblem, ond dydyn nhw ddim yn cymryd yr un cam i'w datrys.
Mae'n siom, ond ddim yn syndod bod Llywodraeth Cymru, yn ôl eu harfer, wedi penderfynu dileu ein holl gynnig a rhoi yn ei le nifer o frawddegau gwag yn brolio eu hunain. Mae pwynt 6 y gwelliant yn sôn am gynnal adolygiad o'r sefyllfa, ond mae'r ffeithiau i gyd eisoes yn hysbys. Mae sôn hefyd am weithredu yn sgil darganfyddiadau'r adolygiad yma, sydd yn siŵr o gymryd hydoedd, pan mae'r gwaith ym eisoes wedi cael ei wneud gan Blaid Cymru. Gweithredu sydd ei angen nawr, nid grŵp gorchwyl.
Yn ein papur ni heddiw, mae Plaid Cymru yn cynnig nifer o gamau er mwyn lliniaru'r sefyllfa. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i'r maes cynllunio er mwyn galluogi cymunedau i gyfyngu ar nifer yr eiddo a all gael eu prynu fel ail dai; galluogi cynghorau i godi premiwm treth gyngor uwch ar dai haf, a chau'r loophole sy'n galluogi perchnogion tai o'r fath i gofrestru eu heiddo fel busnes; cynyddu'r dreth drafodiadau tir ar bryniant ail eiddo; cyflwyno cyfyngiadau ar gwmnïau fel Airbnb i reoli nifer y tai sy'n cael eu defnyddio fel llety tymor byr; edrych ar y posibiliad o gyflwyno amod lleol ar dai mewn rhai ardaloedd; ac ailddiffinio tai fforddiadwy, fel nad yw'n cynnwys tai gwerth dros £0.25 miliwn.
Does dim un o'r mesurau yn fwled aur, a does dim un yn ddadleuol, ond, gyda'i gilydd, gallant wyro grym y farchnad i ffwrdd o fuddsoddwyr cyfoethog tuag at bobl gyffredin ar gyflogau isel. Ni fyddai Cymru ar ei phen ei hunan yn cymryd camau o'r fath. Yn wir, rŷn ni yng Nghymru yn eithriad yn y ffaith ein bod ni'n caniatáu i'r anghyfiawnder yma barhau. Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu yn wyneb amgylchiadau tebyg. Er enghraifft, mae Seland Newydd a Denmarc wedi gwahardd gwerthu tai i bobl sydd ddim yn ddinasyddion, ac mae rhanbarth Bolzano yn yr Eidal wedi cyfyngu ar werthiant tai haf i bobl o du allan i'r rhanbarth. Dim ond rhai enghreifftiau ydy'r rhain, ac, os hoffai Aelodau wybod mwy, mae Mabon ap Gwynfor o Ddwyfor Meirionnydd wedi gwneud ymchwil rhagorol, gan rannu degau o enghreifftiau ar ei gyfryngau cymdeithasol.
Byddem yn galw ar Lywodraeth i ailystyried eu bwriad i ddileu ein holl gynnig ni gyda'u gwelliant. Onid ydych yn gweld bod yna argyfwng? Pam na fyddech yn fodlon defnyddio'r pŵer gweithredol sydd gennych i helpu'r bobl a'r cymunedau sy'n gweiddi allan mewn poen? Pam na safwch chi yn y bwlch? Wedi'r cwbl, mae'r camau rydym yn eu harddel nid yn unig yn ymateb i broblem benodol; gallant hefyd helpu'r Llywodraeth i gyflawni rhai o'u hamcanion presennol eu hunain. Er enghraifft, gyda'r uchelgais tymor hir i gael 30 y cant o bobl i weithio o gartref, trwy weithredu'r argymhellion, gallai pobl ifanc ddychweled i'w bröydd a'u hailegnïo, cyn belled â bod yna dai fforddiadwy yno iddynt allu byw ynddyn nhw. Ac mae trefi sy'n llawn bwrlwm trwy gydol y flwyddyn yn well i'r economi na'r rhai sydd ond yn dod yn fyw am fis, fel Abersoch. Dyma gynllun sy'n gwneud synnwyr economaidd yn ogystal â synnwyr cymdeithasol. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddihuno o'u trwmgwsg a gweithredu er mwyn sicrhau nad yw rhai o'n cymunedau'n troi'n drefi a phentrefi lle mae'r rhan fwyaf o'r eiddo yn wag, a lle mae pobl ifanc yn ei chael yn amhosibl prynu cartref. Mae angen ailgodi ein cymunedau, ac mae angen cymryd y camau hyn nawr.
Mae yna her i'r Llywodraeth heno, Llywydd: gweithredwch nawr, neu bydd anghyfiawnder yn parhau ar bobl ifanc, bydd ein diwylliant yn pylu, ac, fel Capel Celyn, bydd rhai o'n cymunedau yn suddo i bydew hanes. Mae gennych chi'r pŵer. Defnyddiwch y pŵer hwnnw.