13. Dadl Plaid Cymru: Ail Gartrefi

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:55, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y mae nifer o gyfranwyr wedi dweud hefyd, mae'r pandemig wedi effeithio ar sut rydym yn gweld ac yn gwerthfawrogi ein cartrefi. Rydym yn treulio mwy o amser yn ein cartrefi, yn gweithio yn ogystal â byw ac ymlacio yno. Mae cartref wedi bod i lawer ohonom, y rhai lwcus, yn hafan yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac i rai, mae'r opsiwn i adleoli i ail gartref hefyd wedi bod yn ddeniadol, ond gallwn weld y tensiynau y mae hynny wedi'u hachosi mewn rhai cymunedau, gan atgyfodi pryderon hirsefydlog ynglŷn â fforddiadwyedd, mynediad pobl leol at dai a chynaliadwyedd cymunedau y mae eu poblogaethau'n tyfu ac yn crebachu'n sylweddol gyda'r tymhorau.

Mae'r cymunedau hyn yn aml yn ffynnu diolch i'r economi ymwelwyr, ond wrth gwrs mae angen inni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr economi honno a'r cymunedau sy'n ei chynnal. Mae angen swyddi ar gymuned fywiog ac mae angen cartrefi ar ei phobl; mae angen seilwaith cynaliadwy ac ymdeimlad o le. Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn falch o'i phwyslais ar greu lleoedd. Y bore yma lansiais siarter creu lleoedd newydd ar gyfer Cymru, sy'n ymgorffori ein hymagwedd tuag at gymunedau cynaliadwy ledled Cymru ac sy'n gweithio gyda'n partneriaid ar draws y diwydiant ac ar draws y sector rheoleiddio i wneud sicrhau cymunedau mwy cynaliadwy yn nod a ymgorfforir ledled Cymru. Ac wrth gwrs, mae cyflawni hynny'n galw am gydbwysedd rhwng cartrefi parhaol a'r rhai y bydd rhywun yn byw ynddynt am ran o'r flwyddyn neu sy'n cael eu gosod fel busnesau.

Mae angen i bob aelod o'r gymuned, boed yn llawnamser neu'n rhan-amser, gyfrannu'n deg, ac mae angen inni sicrhau nad yw pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud tai fforddiadwy parhaol ledled Cymru yn flaenoriaeth ac rwy'n falch iawn o'n cyflawniad yn buddsoddi £2 biliwn mewn tai. Rydym ar y trywydd iawn i ddarparu ein 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor hwn—roeddem ar y trywydd iawn i wneud mwy na hynny, ond wrth gwrs, mae'r pandemig wedi cael effaith ar hynny—ac o fewn y ffigur hwnnw cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf, ond rydym hefyd wedi helpu pobl i brynu eu cartrefi eu hunain drwy Cymorth i Brynu a thrwy rhentu i brynu.

Bydd cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn helpu pobl leol sy'n ei chael hi'n anodd aros yn lleol oherwydd prisiau eiddo a rhent uchel yn eu cymunedau. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud droeon fy mod yn rhannu'r pryder na all pobl leol—pobl ifanc leol yn enwedig—aros yn y cymunedau lle cawsant eu magu i greu bywydau a theuluoedd iddynt eu hunain. Felly, mae'n bwysig ein bod yn canolbwyntio'n benodol ar gynyddu'r cyflenwad o dai ond mae sicrhau'r cydbwysedd cywir hefyd yn hanfodol. Mae hefyd yn bwysig fod perchnogion ail gartref yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn prynu ac nad ydynt yn prisio pobl leol allan o'r farchnad. Fel y dywedais, nid yw methu gweithio a byw yn yr ardal rydych wedi tyfu fyny ynddi yn rhan o'r ffordd rydym yn gweld Cymru yn y dyfodol. Mae'n broblem sydd gennym ledled Cymru mewn nifer fawr o'n cymunedau; nid yw wedi'i chyfyngu i'r gogledd a'r gorllewin yn unig. Mae gennym gymunedau hardd iawn ledled Cymru ac maent yn gynyddol ddeniadol i bobl, a dylem fod yn briodol falch o hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges hefyd—ac eraill, mewn gwirionedd; Mike a'i crybwyllodd gyntaf—nad yw eiddo gwag yn helpu'r sefyllfa. Rydym wedi annog, cynorthwyo ac ariannu awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau i sicrhau nad dyna sy'n digwydd. Yn wir, unwaith eto yr wythnos hon rydym wedi lansio rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer awdurdodau lleol a chyhoeddir canllawiau newydd y mis nesaf ar ddefnyddio gorchmynion prynu gorfodol i sicrhau y gall cynghorau eu harfer lle bo angen. Mae gennym nifer o gynlluniau hefyd i gynorthwyo perchnogion cartrefi i sicrhau bod tai'n cael eu defnyddio unwaith eto, naill ai at eu defnydd eu hunain neu i'w trosglwyddo i landlordiaid cymdeithasol er mwyn cynyddu ein cyflenwad o dai cymdeithasol. Lywydd, rwyf wedi sôn droeon am y cynlluniau hyn yn y Senedd; rwy'n tynnu sylw pobl atynt. Gallaf siarad, fel y gwyddoch, am o leiaf awr ar unrhyw un o'r cynlluniau hynny, felly nid wyf am brofi eich amynedd drwy wneud hynny.

Rydym yn ymwybodol hefyd o gyfraniad mawr yr economi ymwelwyr. Mae ein strategaeth dwristiaeth newydd, 'Croeso i Gymru: 2020—2025', yn cydnabod ei phwysigrwydd economaidd. Yn hollbwysig, mae hefyd yn cydnabod bod perygl mewn rhannau o Gymru o or-dwristiaeth a bod angen inni dyfu twristiaeth mewn ffyrdd sydd o fudd i Gymru, gan wrando ar drigolion, ymwelwyr a busnesau. Rydym wedi dechrau'r sgyrsiau hynny ac rydym eisoes wedi rhoi nifer o bethau ar y gweill i helpu i sicrhau'r cydbwysedd priodol hwnnw.

Mae'r economi sylfaenol hefyd yn arbennig o bwysig i gymunedau sy'n fwy dibynnol ar dwristiaeth ac mae'n cydnabod na ellir datrys llawer o'r heriau a grybwyllir yn y ddadl hon drwy'r cyflenwad tai yn unig. Mae angen ystyried nifer fawr o bryderon eraill, yn enwedig swyddi, seilwaith gwasgaredig ac yn y blaen.

O ran treth a chyfraniad teg, rydym wedi mabwysiadu safbwynt unigryw. Yn wahanol i weinyddiaethau eraill y DU, ni ddarparodd Llywodraeth Cymru ostyngiad treth dros dro i fuddsoddwyr prynu i osod, rhai sy'n buddsoddi mewn llety gwyliau wedi'i ddodrefnu neu brynwyr ail gartrefi. Fe wnaeth y gostyngiad dros dro ym mis Gorffennaf i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir preswyl godi'r trothwy cychwynnol o £180,000 i £250,000. O ganlyniad, nid yw oddeutu 80 y cant o brynwyr tai Cymru yn talu unrhyw dreth, i fyny o 60 y cant ar gyfer y trothwy o £180,000. Fodd bynnag, mae prynwyr ail gartref yng Nghymru yn talu cyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir o gymharu â'r rhai sy'n prynu cartrefi, gan dalu 3 y cant ar ben pob cyfradd y byddai rhai sy'n prynu cartref yn ei thalu. Nid yw'r newid dros dro hwn yn berthnasol i drafodiadau preswyl sy'n ddarostyngedig i gyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir, ac mae hynny'n sicrhau bod y gostyngiad yn cael ei dargedu at brynwyr cartrefi a allai fod angen cymorth ychwanegol i brynu eu cartrefi yn y cyfnod economaidd ansicr hwn, ac nid yw ar gael i brynwyr ail gartrefi ac eiddo buddsoddi prynu i osod. Mae hynny'n gwrthgyferbynnu â Llywodraethau'r DU a'r Alban, sydd wedi darparu gostyngiadau treth ar brynu eiddo o'r fath fel rhan o'r newidiadau dros dro i'r dreth trafodiadau eiddo. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad gweithredol i gyfundrefn flaengar sy'n disgwyl i'r rheini sydd â'r ysgwyddau lletaf gyfrannu'r gyfran fwyaf o dreth. Mae hynny'n cynnwys y rheini sydd mewn sefyllfa i allu prynu mwy nag un eiddo preswyl. Lywydd, ar ôl y sgwrs ynglŷn â phwy sy'n berchen ar beth, dylwn ddweud nad wyf yn berchen ar ail eiddo preswyl nac unrhyw eiddo arall. Mae gennyf forgais o hyd ar fy nghartref fy hun.

Mae gwir angen sicrhau ein bod yn adeiladu'r mathau cywir o dai ledled Cymru, a hoffwn atgoffa'r Aelodau ein bod, wrth gwrs, wedi cyfeirio £30 miliwn o'r arian sydd ar gael ar gyfer y dreth trafodiadau tir i gam 2 ein rhaglen ddigartrefedd er mwyn sicrhau ei fod yn mynd tuag at adeiladu llawer mwy o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu. Cymru hefyd yw'r unig wlad i roi cyfle i awdurdodau lleol godi premiwm o hyd at 100 y cant ar gyfraddau'r dreth gyngor i ail gartrefi. Ar hyn o bryd, mae wyth awdurdod yn codi premiymau sy'n amrywio o 25 y cant i 50 y cant. Nid oes yr un ohonynt yn gosod y premiwm uchaf sydd ar gael, ac yn absenoldeb tystiolaeth ac ymgynghori pellach, ac o ystyried nad ydynt yn codi hyd yn oed yr uchafswm a ganiateir gennym ar hyn o bryd, nid wyf wedi fy argyhoeddi fod dyblu'r premiwm hwnnw'n beth da. O safbwynt treth, mae hefyd yn bwysig asesu'r dystiolaeth o weld sut y mae treth yn cefnogi cymunedau ledled Cymru. Mae'r dreth trafodiadau tir, er enghraifft, yn dod â refeniw sylweddol i Lywodraeth Cymru, refeniw a werir ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn archwilio pŵer caniataol yn y dyfodol i awdurdodau lleol allu rhoi treth dwristiaeth mewn grym, fel y gall twristiaid gyfrannu'n uniongyrchol at gostau a delir gan awdurdodau lleol o ganlyniad i dwristiaeth yno.

Ond ni fyddwn yn datrys y materion a'r diddordebau hyn drwy drethu'n unig. Mae gennym hefyd y grŵp strategol gwledig ar gyfer tai gwledig, oherwydd gwyddom fod gan ardaloedd gwledig heriau penodol mewn perthynas â thai sy'n deillio'n bennaf o brisiau uchel tai o gymharu ag incwm, a lefelau isel o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae gan ardaloedd gwledig lawer o anghenion gwahanol, ac mae gan bob ardal ei heriau a'i chyfleoedd unigryw ei hun, ac felly rydym yn arwain grŵp strategol gwledig sy'n cynnwys swyddogion galluogi tai gwledig, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n cyfarfod bob chwarter ac yn darparu fforwm i gyfnewid a phrofi syniadau a rhannu arferion da. A gallwch weld o'r ystod o bethau rydym yn eu gwneud nad ydym yn credu bod atebion hawdd na chyflym i hyn, ac mae nifer o'r cyfranwyr wedi cydnabod hynny. Rwy'n awyddus iawn i ddeall safbwyntiau amrywiol am y pwerau presennol, eu defnydd a'u heffeithiau, ac i ystyried y dystiolaeth. Mae angen inni sicrhau cydbwysedd cywir rhwng rôl werthfawr yr economi ymwelwyr, hawliau pobl i fwynhau eiddo, mynediad at dai fforddiadwy sy'n cynnal ac yn bywiogi ein cymunedau, a'r cyfraniad y mae pob math o berchentyaeth yn ei wneud, ac y dylai ei wneud, i'n cymunedau.

Yn sicr, mae gan Lywodraeth Cymru ewyllys ac awydd i ymgysylltu'n eang er mwyn datblygu'r gwaith hwnnw ac asesiadau pellach o opsiynau a'u heffaith, ac rwy'n barod i weithio gydag Aelodau, a dechreuais fy araith drwy ddweud, 'Lywydd, rwy'n barod i weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd i'r perwyl hwnnw.' Ac yn wir, rwyf wrthi'n trefnu cyfarfodydd gyda nifer o'r Aelodau sydd eisoes wedi camu ymlaen i wneud yn union hynny. Ac felly, Aelodau, gofynnaf i chi gefnogi gwelliant y Llywodraeth, sy'n darparu sylfaen ddigon eang i allu cyflawni hynny i gyd. Diolch.