15. Dadl Fer: Adeiladu'r sylfeini ar gyfer newid: effaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:40 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 7:40, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno adroddiad y grŵp trawsbleidiol i'r Siambr. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud, ac mae amrywiaeth o bwyntiau dilys y byddwn yn cytuno â hwy ac rwy'n gobeithio y llwyddaf i'w crybwyll yn yr ymateb. Rwy'n ddiolchgar i'r grŵp trawsbleidiol ac i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu profiad proffesiynol a phersonol, yn ogystal ag arbenigedd pobl â chyflyrau niwrolegol, gofalwyr, y colegau brenhinol, y GIG a'r trydydd sector. Bydd yr adroddiad a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol, a fydd yn cyfarfod ar 7 Hydref. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gydag ymateb Llywodraeth Cymru a'r grŵp gweithredu ar y cyd i'r adroddiad.

Rwy'n credu'n gryf fod darparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yn hanfodol, a bod angen cydbwyso hynny wrth gwrs â chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Fel gyda llawer o gyflyrau iechyd mawr eraill, cafodd rhai gwasanaethau eu hatal dros dro neu eu lleihau wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio ac wrth i gyfnod cyntaf y pandemig fynd rhagddo. Roedd yn ofynnol i fyrddau iechyd, fel rhan o'u cynlluniau chwarterol, ailgynllunio'r amgylchedd gofal er mwyn sicrhau bod y cleifion yr amheuid ac yr amheuir bod COVID arnynt yn cael eu cadw ar wahân i gleifion eraill. Lle cafodd gwasanaethau eu hatal neu eu lleihau, gofynnwyd i feddygon ymgynghorol fynd drwy eu rhestrau aros i raddio risg a blaenoriaethu pob claf. Pan oedd yn bosibl ailgyflwyno gwasanaethau perthnasol yn ddiogel, y nod a'r amcan yw mai'r rheini â'r angen mwyaf dybryd a welwyd yn gyntaf. Mae byrddau iechyd yn parhau i gynnal ymgynghoriadau rhithwir ac ymgynghoriadau dros y ffôn gyda chleifion, a lle bo hynny'n angenrheidiol ac er lles gorau'r claf, fe'u gwelir wyneb yn wyneb hefyd. 

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais gynllun diogelu'r gaeaf. Mae'r cynllun hwnnw'n nodi'r hyn sydd ei angen nesaf i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol diogel ac effeithiol a chefnogi cleifion a'n gweithlu dros y misoedd i ddod. Mae'n bwysig cydnabod y bydd heriau'r gaeaf hwn hyd yn oed yn fwy nag unrhyw aeaf arferol, o ystyried yr angen i ymateb i'r achosion o COVID a'r ail ymchwydd yn nifer yr achosion o'r feirws a welsom dros yr wythnosau diwethaf. Fel y cyfryw, rhaid ystyried yr argymhellion yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ochr yn ochr â'r pwysau sylweddol sy'n parhau ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau y dylai unrhyw un sydd â chyflwr niwrolegol gael y gofal gorau posibl. Rwy'n falch fod adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn tynnu sylw at y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan y byrddau iechyd a'r grŵp gweithredu. 

Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol, sy'n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru, yn un y dewisais ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2022, tra eir ati i ddatblygu grwpiau gweithredu a chynlluniau cyflawni llwyddiannus. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer cyfnod o fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a'r modelau gofal newydd a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig, gan ganiatáu hefyd ar gyfer alinio â datblygiad y fframwaith clinigol cenedlaethol a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach'. Bydd unrhyw ddull olynol yn ystyried argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fuddsoddi £1.2 miliwn bob blwyddyn i wella mynediad ar gyfer pob claf sydd angen gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithredu ein hymrwymiad i wella mynediad at therapïau seicolegol, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd i gefnogi'r maes hwn. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi ymhellach mewn therapïau seicolegol y flwyddyn nesaf, fel rhan o'n cynigion cyllidebol.

Bydd y grŵp gweithredu yn parhau i weithio'n agos gyda Michelle Price, ein harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau niwrolegol, ar ddatblygu blaenoriaethau'r grŵp. Byddwn yn gwneud hynny drwy ddull cydgynhyrchu, fel y dywedodd Mark Isherwood, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, datblygu gwasanaethau a datblygu llwybrau a modelau gofal clir, yn seiliedig ar arferion gorau a thystiolaeth ymchwil, a phrofiad byw wrth gwrs. 

Ar hyn o bryd mae gan y grŵp gweithredu dri is-grŵp ar gyfer y meysydd a nodwyd: niwrolegol oedolion, pediatrig a ffitiau. Grŵp amlbroffesiynol yw'r grŵp ffitiau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu llwybr cleifion di-dor i Gymru gyfan ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Mae'r grŵp pediatrig hefyd yn amlbroffesiynol, ac mae'n edrych ar adsefydlu pediatrig yn benodol. Mae'r grŵp adsefydlu niwrolegol yn canolbwyntio ar hunanreoli, adsefydlu niwrolegol cymunedol, technoleg ac adsefydlu, ac adsefydlu cleifion mewnol. Bydd y grwpiau hyn yn cael eu hadolygu a'u hailffocysu wrth i flaenoriaethau newid a datblygu. 

Fel y dywedais, mae llais y claf yn hanfodol os ydym am wella ansawdd ein gwasanaethau ar draws iechyd a gofal, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol. O'r cychwyn, maent bob amser wedi cynnwys cynrychiolaeth o blith defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r grŵp gweithredu hefyd wedi rhoi cyllid i Gynghrair Niwrolegol Cymru fel y gall eu rheolwr prosiect ddatblygu rhwydwaith o ddefnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru i lywio'r gwaith o godi ymwybyddiaeth ac ennyn cefnogaeth i welliannau i wasanaethau yn y dyfodol. Mae Cynghrair Niwrolegol Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyfeirio at wybodaeth ar gyfer pob cyflwr lle bo'n briodol. Rwy'n ddiolchgar i'r gynghrair, ac i sefydliadau gofal iechyd eraill yn y trydydd sector am ddarparu adborth rheolaidd gan gleifion ar wasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig. 

I gloi, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd da yn gwella gwasanaethau niwrolegol yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod mwy y dylem ei wneud ac sy'n rhaid inni ei wneud. Bydd argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn helpu i ddarparu ffocws ychwanegol, wrth inni barhau i ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth yn y maes gofal iechyd hwn. Diolch.