Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 23 Medi 2020.
Ers dechrau'r pandemig, cafwyd saith cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid, lle buom yn trafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys yr ymateb cyllidol i'r argyfwng, cyllideb hydref Llywodraeth y DU a'r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y ffordd.