Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 23 Medi 2020.
Weinidog, mae 2020 wedi amlygu pa mor agored i niwed yw ein heconomi mewn gwirionedd—agored i COVID ac agored i hinsawdd sy'n newid. Nid ydym yn barod o gwbl ar gyfer ymdopi â'r fath sioc i'n systemau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda chydweithwyr ar draws y pedair gwlad ynglŷn â sicrhau bod cyllid yn mynd tuag at liniaru risgiau pandemig yn y dyfodol a'r heriau sy'n ein hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd?