Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch yn fawr am godi'r mater hwnnw, a chredaf mai un peth allweddol yn ein harfogaeth o ran caffael yw datganiad polisi caffael Cymru. Nawr, y tro diwethaf y'i diweddarwyd yn llawn oedd yn 2015, ac mae'n darparu'r strategaeth a'r fframwaith i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â chaffael cyhoeddus. Ac mae ei gymhwyso'n effeithiol wedi sicrhau effeithiau cadarnhaol, ond gwn y gallwn wneud mwy, gallwn fynd ymhellach, felly mae datganiad polisi caffael diwygiedig yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i edrych ac adeiladu ar y berthynas waith agosach a ddatblygwyd gyda Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn ein hymateb i bandemig COVID. Rwy'n credu bod ein perthynas waith yn yr ystyr honno yn well nag erioed, felly mae'n gyfle inni sicrhau bod ein gwaith caffael yn elwa o'n ffyrdd newydd o weithio.