Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Llywydd. Efo chwarter poblogaeth Cymru erbyn hyn dan gyfyngiadau uwch yn sgil y pandemig ar hyn o bryd, mi roeddwn i'n falch o weld mesurau newydd yn cael eu cyhoeddi neithiwr i gefnogi pobl yn ariannol. Dwi'n cyfeirio'n bennaf at y taliad o £500 i bobl ar incwm isel a chefnogaeth hefyd i gyflogwyr allu parhau i gyflogi pobl sydd yn sâl. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael manylion y cynllun yma cyn gynted â phosib. Oes posib cael y manylion hynny rŵan? Ac, a ydyn ni'n debyg o gael rhagor o gyhoeddiadau am gefnogaeth yn benodol i ardaloedd sydd yn cael eu hadnabod fel y rhai sydd angen bod mewn mesurau mwy cyfyng?