Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 23 Medi 2020.
Y pryder ydy, wrth gwrs, ei fod o'n mynd i fod yn fater sydd yn parhau am amser maith, ac mae yna bryderon, yn sicr, dros beth ddigwyddiff dros y gaeaf.
Yn olaf, dwi eisiau cael rhywbeth ar y cofnod, mewn difrif. Wrth inni wynebu dod allan o'r twll economaidd rydym ni ynddo fo ar hyn o bryd, mae wedi dod yn glir yn ystod y pandemig yma bod trefniadau ffisgal Cymru yn gwbl, gwbl annigonol. Gaf i sicrwydd gennych chi bod trafod efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig y rheolau a'r amgylchiadau ffisgal newydd yr hoffech chi eu gweld yn mynd i fod yn flaenoriaeth i chi? A wnewch chi gytuno â fi dyw hyn yn sicr ddim yn rhywbeth sy'n gallu cael ei roi o'r neilltu oherwydd COVID, mae o'n rhywbeth sydd angen ei wneud yn gyflymach a'i brysuro oherwydd COVID a'r problemau economaidd sydd wedi dod yn sgil hynny?