Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 23 Medi 2020.
Nid yw'r Bil marchnad fewnol yn dweud unrhyw beth am wario ar wasanaethau cyhoeddus yn ychwanegol at gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr, pe baem i gyd yn onest, y byddem yn deall y byddai hyn yn golygu gostyngiad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, nid wyf am fynd i ddadansoddi’r penderfyniad a wnaed gan y Prif Weinidog beth amser yn ôl bellach, ond roedd fforddiadwyedd yn rhan ohono. Y pryder mawr arall a oedd ganddo oedd effaith amgylcheddol y cynlluniau. Ond fel rwy'n dweud, mae hwn yn dal i fod yn fater i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.