Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 3:02, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Gofynnwyd i'r Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl rwy'n credu, ynglŷn â'r posibilrwydd o godi treth incwm y flwyddyn nesaf, a chredaf iddo ymateb drwy ddweud bod yr economi mor wan yn sgil COVID fel y byddai'n anghywir inni ystyried unrhyw godiadau treth incwm. A yw hynny'n golygu mai dim ond pan fydd yr economi'n gryf y dylid ystyried codiadau treth incwm?