Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 23 Medi 2020.
O ystyried effaith sylweddol iawn yr argyfwng COVID ar gyllid Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, y gostyngiad tebygol mewn arenillion treth oherwydd y mesurau llymach yng Nghymru o gymharu â’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud yn Lloegr, sut y mae’r Gweinidog yn y pen draw yn disgwyl rhoi cyllid cyhoeddus yn ôl ar sylfaen gynaliadwy unwaith eto? A fydd yn torri gwariant? A fydd yn cynyddu cyfraddau treth incwm Cymreig? Neu a fydd yn disgwyl i Lywodraeth y DU ei hachub?