Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae problemau ariannol y sector celfyddydau yn sgil COVID yn parhau, a dwi'n credu eich bod chi'n cytuno efo fi bod gweithwyr llawrydd, yn benodol, felly, o dan bwysau mawr. Fe ddywedoch chi wrth bwyllgor diwylliant y Senedd nad oedd y £7 miliwn ar gyfer gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn ddigonol. A dwi'n siŵr eich bod chi wedi gweld adroddiad cynhwysfawr tasglu llawrydd Cymru hefyd, sydd yn dod â nifer o argymhellion pwysig ymlaen. Mae'r adroddiad yma hefyd yn cynnwys nifer o bryderon ynghylch datblygiad gwaith cyfrwng Cymraeg yn y sector benodol yma. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gan weithwyr llawrydd y gefnogaeth sydd ei hangen, ac a fyddwch chi'n fodlon gweithio efo'r tasglu yma, ac efo'r cyngor celfyddydau, a sefydliadau eraill, i weithredu ar argymhellion yr adroddiad? Pa gynlluniau penodol sydd gennych chi fel Llywodraeth i amddiffyn a thyfu'r sector cyfrwng Cymraeg yn ystod y pandemig?