Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch yn fawr. Edrychwn ymlaen, felly, at weld y gwaith yna yn dwyn ffrwyth, achos rydych chi'n cytuno, dwi'n siwr, bod y diwydiant papurau newydd a chael un ffyniannus yn hollbwysig i ddemocratiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Felly, dwi'n falch o glywed beth rydych chi'n ei ddweud heddiw ar hynny.
Gaf i droi jest at un maes arall i gloi, felly? Ddydd Iau diwethaf, dwi'n credu oedd hi, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cronfa adfer chwaraeon a hamdden, gwerth £14 miliwn, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond un o'r problemau mae pobl yn y maes yna yn sôn wrthyf i amdano fo ydy bod rhaid i beth o'r arian yma fynd at gynlluniau arloesi, ac maen nhw'n gweld hynny yn anodd iawn, achos, mewn gwirionedd, maen nhw angen llenwi bylchau sydd yn codi o ddiffyg incwm. Pam eich bod chi wedi dewis ffocysu ar gynlluniau arloesi, yn hytrach na chanolbwyntio ar helpu sefydliadau i oroesi'r diffyg incwm sydd o'u blaenau nhw ar hyn o bryd?