Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Weinidog. Mae galluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod misoedd y gaeaf yn gwbl hanfodol. Mae bob amser wedi bod yn hanfodol, ond mae'n fwy hanfodol nag erioed yn awr yn ystod y pandemig hwn. Mae ardaloedd gwledig, sy'n aml yn cael eu hystyried yn gefnog gan Lywodraeth Cymru, yn ddifrifol o dlawd mewn llawer o ardaloedd o ran cyfleusterau chwaraeon, yn enwedig y rhai y gellir eu defnyddio yn ystod misoedd y gaeaf i sicrhau y gall pobl a chlybiau barhau â'u gweithgareddau chwaraeon drwy gydol y misoedd oeraf a mwyaf glawog. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod gan bawb ar draws pob rhan o Gymru fynediad at gyfleusterau chwaraeon pob tywydd yn eu cymunedau eu hunain, fel nad oes raid iddynt deithio?