Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn olaf, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn wynebu cryn anhawster ariannol oherwydd y coronafeirws. Dywedir eu bod yn wynebu colledion o tua £200 miliwn o ganlyniad i'r pandemig, ac maent wedi gorfod adolygu pob agwedd ar eu helusen i wneud arbedion ym mhob maes gweithgaredd bron iawn. Un atyniad o'r fath sydd mewn perygl ar hyn o bryd yw'r tŷ crwn yn y Cymin, sy'n atyniad pwysig i dwristiaid yn yr ardal, gan ddenu 65,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'r ymddiriedolaeth wrthi'n ymgynghori ar gau'r tŷ crwn, a fyddai'n ergyd fawr i'r economi leol. A wnewch chi gadarnhau bod y swm llawn o arian a ddarperir gan Lywodraeth y DU i gefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd, a pha gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol, fel y tŷ crwn, yn cael eu cadw ar agor?