Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:56, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Darren. Y gefnogaeth rydym wedi'i rhoi i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru yw'r gefnogaeth fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig drwy'r gronfa cadernid economaidd. Mae busnesau twristiaeth drwy Gymru gyfan wedi cael budd o dros £27 miliwn drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, a gwariwyd £8 miliwn ohono yng ngogledd Cymru.