Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 23 Medi 2020.
Gaf i droi at faes arall, sef newyddiaduraeth? Hoffwn i wybod pa drafodaethau rydych chi wedi eu cael ynglŷn â dyfodol newyddiaduraeth print cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Ydych chi wedi bod yn trafod efo Reach, er enghraifft? Hoffwn i wybod sut y gall y Llywodraeth ddarparu cefnogaeth—hyd braich, yn amlwg, ond cefnogaeth serch hynny—i'r cyfryngau print Saesneg.