Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch am y cwestiwn. Mae staff y Comisiwn wedi bod yn paratoi yn ystod y toriad ar gyfer cynnal cyfarfodydd pwyllgor hybrid. Addaswyd yr ystafelloedd pwyllgorau i alluogi i rai Aelodau, swyddogion a thystion i fod yn bresennol yn ddiogel, gydag eraill yn cymryd rhan dros Zoom. Cynhelir dau gyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 2 Hydref a 9 Hydref er mwyn profi'r fformat a'r cyfleusterau. Yng ngoleuni'r profiad hwnnw, bydd fforwm y Cadeiryddion yn trafod y posibilrwydd o gynnig fformat hybrid i bwyllgorau eraill yn ail hanner y tymor yma.