Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf am droi fy nghefn atoch, Janet. Defnyddir y gyllideb ddodrefn a ffitiadau, fel y mae, i ddarparu ar gyfer unrhyw ddodrefn swyddfa ad hoc sydd eu hangen yn Nhŷ Hywel a'r Senedd ar gyfer Aelodau o'r Senedd, eu staff a staff y Comisiwn. Mae'r gyllideb yn rhoi hyblygrwydd i'r Comisiwn ddiwallu anghenion penodol unigolyn sy'n mynd y tu hwnt i ddarparu dodrefn safonol. Gall eitemau dodrefn sydd dros ben ond y gellir eu defnyddio gael eu hailddefnyddio, eu defnyddio i atgyweirio neu amnewid unrhyw eitemau sydd wedi torri neu wedi'u difrodi, neu gellir eu hailgylchu wrth gwrs.