Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch, Cadeirydd, am y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynwyd y Bil Amaethyddiaeth i Senedd y DU yn gyntaf ar 16 Ionawr 2020, ac mae'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion datganoledig. Nodir darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru yn Atodlen 5 i'r Bil, ond maent hefyd yn ymddangos drwy gydol y Bil. Argymhellaf fod Aelodau'r Senedd yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth.
Wrth benderfynu a ddylid argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, rwyf wedi ystyried y sylwadau defnyddiol a godwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod eu gwaith craffu. Mae'r Bil Amaethyddiaeth yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i barhau i ddarparu cymorth ariannol i sector amaethyddol Cymru drwy fersiwn ddomestig o gynllun taliadau sylfaenol y polisi amaethyddol cyffredin a chynllun taliadau datblygu gwledig. Credaf ei bod yn briodol cynnwys y darpariaethau hyn ym Mil Amaethyddiaeth y DU gan y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu darparu sefydlogrwydd a pharhad y mae mawr ei angen i'r sector amaethyddol.
Bwriadwn ddefnyddio'r pwerau wrth drosglwyddo i system newydd o gymorth amaethyddol, yr ydym yn cynnig y bydd yn cael ei chynllunio ar sail egwyddorion rheoli tir cynaliadwy. Ar 31 Gorffennaf, lansiais y cynigion 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' i barhau a symleiddio cymorth amaethyddol i ffermwyr a'r ymgynghoriad ar yr economi wledig. Mae'r ymgynghoriad yn amlinellu cynigion ynghylch sut y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r darpariaethau parhad sy'n caniatáu cyflawni cynllun taliadau sylfaenol domestig newydd a chynllun taliadau datblygu gwledig. Mae'n nodi nifer o newidiadau bach ond effeithiol i'w gweithrediad yn ystod blwyddyn 2021 y cynllun. Daw'r ymgynghoriad ar y cynigion hyn i ben ar 23 Hydref.
Mae'r Bil Amaethyddiaeth hefyd yn cynnwys darpariaethau eraill ar gyfer sicrhau bod sectorau amaethyddol yn cael eu gweithredu'n effeithiol ledled y DU. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau ar gyfer diwygio tenantiaethau amaethyddol, ailddosbarthu'r ardoll cig coch, sefydliadau bargeinio teg a chynhyrchu, ymyrraeth yn y farchnad a safonau marchnata, casglu a rhannu data, a nodi ac olrhain da byw, gwrteithiau a chynhyrchion organig. Mae'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n nodi'r darpariaethau hyn wedi bod yn destun craffu gan y Senedd o'r blaen.
Mae'r Bil Amaethyddiaeth yn rhoi darpariaethau gwneud rheoliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar amaethyddiaeth yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Fel yr wyf wedi amlinellu i'r Senedd o'r blaen, mae'r rhain yn ddarpariaethau gweddol gymhleth y cododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig bryderon yn eu cylch yn ystod ei waith craffu. Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r darpariaethau hyn, ac i argymhelliad y pwyllgor arnynt yn eu hadroddiad ym mis Mai 2020. Rwy'n parhau i fod yn fodlon â'r cytundeb dwyochrog a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddefnyddio'r pwerau hyn. Mae'r cytundeb yn darparu dulliau cryf i Weinidogion Cymru fynegi eu barn a sicrhau bod y farn honno'n cael ei hystyried gan y Senedd a chan Lywodraeth y DU wrth wneud a defnyddio rheoliadau mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'r DU yn ymdrin â Sefydliad Masnach y Byd.
Yn argymhelliad 16 ei adroddiad, gofynnodd y pwyllgor am eglurder ynghylch a oeddwn yn credu y dylai'r Bil gynnwys mesurau diogelu i sicrhau nad yw safonau marchnata yng Nghymru yn dioddef yn sgil mewnforion mewn unrhyw drefniadau masnach yn y dyfodol. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 12 Mehefin i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid a materion sicrhau iechyd (pobl) anifeiliaid a phlanhigion allweddol mewn cysylltiad â chytundeb masnach yn y dyfodol. Mae diogelwch bwyd, ynghyd ag iechyd a lles anifeiliaid, yn faterion datganoledig, ac mae polisi Llywodraeth Cymru yn glir: sef bod yn rhaid cynnal safonau uchel diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol yng Nghymru. Er bod Gweinidogion y DU yn parhau i fynnu eu bod yn benderfynol o gynnal y safonau uchel presennol o ran diogelwch bwyd a lles anifeiliaid, maent yn amharod i ganfod drafftio cyfreithiol priodol a fyddai'n eu galluogi i roi sicrwydd o'r fath mewn statud. Fel Llywodraeth, mae hyn yn ofid inni.
Wrth argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil, rydym yn cydnabod nad yw'n berffaith ac nid fel y byddem ni wedi'i ddrafftio. Fodd bynnag, mae'r Bil fel y'i diwygiwyd, at ei gilydd, yn dderbyniol. Rwyf eisiau sicrhau'r Siambr ein bod yn bwriadu gwrthwynebu'n gryf y cymalau ym Mil y farchnad fewnol a fyddai'n galluogi'r Llywodraeth hon neu unrhyw Lywodraeth yn San Steffan i danio'r gwn i gychwyn y ras i waelod safonau diogelwch bwyd a lles anifeiliaid.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, cynigiwn y bydd sector amaethyddol Cymru yn trosglwyddo i system newydd o gymorth amaethyddol. Mae ein cynigion yn glir: sef ei bod yn bwysig trosglwyddo i system o'r fath yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, i fynd i'r afael â'r diffyg cadernid economaidd ac amgylcheddol yn y sector, ac er mwyn diogelu enw da'r diwydiant. Mae'n amser maith ers cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth gwreiddiol i Senedd y DU ym mis Medi 2018. Gan ystyried hyn, ochr yn ochr â phryderon a godwyd gan y Senedd yn ystod gwaith craffu, deuthum i'r casgliad nad oedd yn briodol cynnwys y pwerau cymorth ariannol newydd y darparwyd ar eu cyfer yn wreiddiol yn y Bil hwn. Yn hytrach, fy mwriad yw gwneud darpariaethau priodol mewn Bil amaethyddiaeth (Cymru). Rydym yn bwriadu i'r Bil Cymru hwn roi darpariaethau i Weinidogion Cymru gynllunio a darparu system bwrpasol o gymorth i amaethyddiaeth, diwydiannau gwledig a chymunedau Cymru.
Yn ystod gwaith craffu, mynegodd pwyllgorau'r Senedd bryderon ynghylch absenoldeb cymal sy'n cyfyngu ar amser yn y Bil Amaethyddiaeth gwreiddiol. Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, cyfarwyddais Lywodraeth y DU i gynnwys cymal machlud ar wyneb y Bil. Mae hyn bellach yn rhan o'r Bil yng nghymal 51, ac mae'n sicrhau bod darpariaethau yn Atodlen 5 yn dod i ben, ynghyd â nifer fach o ddarpariaethau cysylltiedig, ar ddiwedd 2024 yn unol â'r ddarpariaeth honno. Erbyn diwedd y flwyddyn hon, bwriadaf gyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn nodi'r cyd-destun ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru). Cynigiaf y cynnig i'r Siambr.