Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch, Llywydd dros dro. Mae'r ddadl hon yn ein tynnu gam yn nes at gytuno ar drefniadau trosiannol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru. Mae wedi bod yn daith hir. Mae craffu ar Fil Amaethyddiaeth y DU wedi bod yn elfen ganolog o waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar Brexit. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf mewn cysylltiad â Bil Amaethyddiaeth y DU yn ôl ym mis Ionawr 2019. Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym wedi cael y cwymp cyntaf ym Mil y DU oherwydd addoedi, a chyflwynwyd un arall yn sgil etholiadau'r DU. Rydym wedi adrodd ar dri achlysur gwahanol ar Fil Amaethyddiaeth y DU.
Mae tri mater allweddol wedi bod yn flaenllaw yn ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Yn gyntaf, defnyddio'r weithdrefn gydsynio i ddeddfu ar faterion polisi arwyddocaol mewn meysydd datganoledig. Fel pwyllgor, rydym bob amser wedi cydnabod bod angen deddfwriaeth i barhau i ddarparu cymorth ariannol i'r sector amaethyddol yn syth ar ôl Brexit—y peth olaf y byddai unrhyw un eisiau ei weld yw atal llif yr arian. Ond rydym bob amser wedi dweud mai Bil Cymreig yw'r ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar bwnc mor arwyddocaol â dyfodol hirdymor amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym dro ar ôl tro fod hyn yn amhosibl oherwydd prinder amser.
Rydym wedi gweld yn uniongyrchol gyfyngiadau'r weithdrefn gydsynio. Yn amlach na pheidio, ceir ymgynghori cyfyngedig â rhanddeiliaid yng Nghymru, craffu cyfyngedig ar ddarpariaethau Cymru—yn sicr dim byd tebyg i broses Bil y Senedd. Rydym wedi adrodd ar ddarpariaethau sydd wedi'u mewnosod, dim ond iddynt gael eu tynnu allan mewn camau diwygio dilynol. Mewn rhai achosion, mae Atodlenni cyfan wedi'u dileu. Hyd yn oed heddiw, gofynnir i'r Senedd roi ei chydsyniad tra bo'r Bil yn dal i fod yn y cyfnod diwygio yn y Senedd.
Yn ail, bu tuedd sy'n peri pryder i Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol gynnwys darpariaethau sy'n rhoi pwerau sylweddol i Weinidogion Cymru gan osod ychydig iawn o ddyletswyddau arnynt. Rydym wedi dadlau'n gyson y bydd yr anghydbwysedd hwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar allu'r Senedd i graffu ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i amaethyddiaeth ar adeg pan fo craffu effeithiol yn hanfodol.
Yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru a'r DU wedi ei chael hi'n anodd datblygu perthynas waith effeithiol i ymdrin â her Brexit. Mae hyn yn rhywbeth sy'n ddealladwy; mae hyn yn rhywbeth sy'n newydd i bob un ohonom. Ni fu angen y strwythurau a'r fframweithiau sy'n angenrheidiol i gydweithio cyn hyn. Rydym wedi bod yn gyson wrth ddweud y bydd gadael yr UE yn golygu bod angen cydberthnasau rhynglywodraethol newydd ar lefel y DU. Wrth i Lywodraethau ganolbwyntio ar ddatblygu'r cysylltiadau rhynglywodraethol newydd hyn, y cwestiwn i Seneddau yn y pedair gwlad gyfansoddol yn y DU yw beth yw ein safle ni yn y tirlun newydd hwn. A fyddwn yn rhoi sêl bendith ar gynigion cydsyniad fel y gall Senedd y DU ddeddfu ar ein rhan? A gytunwn y gall Senedd y DU roi pwerau i Weinidogion Cymru, gan osgoi'r Senedd hon yn gyfan gwbl? Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol.
Ond gan symud ymlaen a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, mae'r Gweinidog a swyddogion wedi ymgysylltu'n adeiladol ac yn gadarnhaol â'r pwyllgor drwy gydol y broses hon. Yn ein tri adroddiad, rydym ni wedi gwneud llawer o argymhellion, ac ymatebodd y Gweinidog yn adeiladol. Rydym wedi gweld y Gweinidog yn gweithredu o ganlyniad i'r argymhellion hyn. Mae darpariaethau Cymru yn y Bil yn edrych yn wahanol iawn heddiw nag yr oeddent ar ddechrau'r broses hon. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod yr hyn a oedd bryd hynny'n Atodlen 3, a roddodd bwerau deddfu hirdymor sylweddol i Weinidogion Cymru wedi ei dileu. Yr hyn sy'n weddill yw pwerau trosiannol i raddau helaeth a gaiff eu disodli gan Fil Cymreig yn y dyfodol.
Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar amaethyddiaeth cyn diwedd y Senedd hon, gyda'r bwriad o gyflwyno Bil Cymru yn y Senedd nesaf. Y cwestiwn i'r Senedd yw a yw'r darpariaethau'n briodol i hwyluso trosglwyddo llyfn i unrhyw system newydd o gymorth i amaethyddiaeth ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r pwyllgor wedi nodi llawer o faterion manwl yn y Bil a oedd yn anfoddhaol—rhoddwyd sylw i rai ohonynt, mae rhai'n parhau. Ond rwy'n croesawu'n fawr y bydd dyfodol polisi amaethyddiaeth yn cael ei bennu yng Nghymru gan y Senedd, ar ffurf Bil Cymreig, yn amodol ar welliannau a gyflwynwyd gan Aelodau ar draws y Senedd hon, ac yr ymgynghorir yn helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid Cymru arnynt.